Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Tachwedd 2016

Grantiau i Brosiect sy’n darparu Cymorth Cyfreithiol i Gyn-filwyr

Mae Ysgol y Gyfraith Aberystwyth wedi sicrhau dau grant gwerth cyfanswm o bron i £25,000 tuag at brosiect sy’n cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i gyn-filwyr a’u teuluoedd.

Sefydlwyd y Veterans Legal Link yn 2015 gan Dr Olaoluwa Olusanya, darlithydd yn y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gan weithio gydag ystod o bartneriaid, mae’r prosiect yn cefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd ledled Cymru drwy ddarparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cymorth arbenigol yn rhad ac am ddim.

Mae’r fenter yn dibynnu ar rwydwaith o glinigau cyfreithiol gwirfoddol, elusennau a sefydliadau yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl a Chyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion.

Mae Veterans Legal Link hefyd yn cynnig interniaethau a chyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr yng Nghymru, yn ogystal â chynnal ei ymchwil academaidd annibynnol ei hun.

Mae’r prosiect bellach wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am grant o £20,000 oddi wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn a bron i £5,000 oddi wrth Gronfa’r Loteri Fawr.

Dywedodd Sylfaenydd a Chyd-gydlynydd y Prosiect, Dr Olaoluwa Olusanya, o Ysgol y Gyfraith Aberystwyth: “Rwyf wedi bod yn ymwneud â chyfraith cyn-filwyr erioed a thrwy fy ngwaith sylwais fod yna fylchau ar gyfer prosiectau fel ein un ni yng Nghymru.

"Rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth fel hyn, ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol o du’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Chronfa’r Loteri Fawr.

“Yn ogystal â chynorthwyo cyn filwyr, mae’r prosiect hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr ac yn dangos i’n myfyrwyr sut mae’r gyfraith yn gweithredu yn y byd go iawn a sut mae’n gallu helpu pobl sydd mewn angen.”

Sefydlwyd Veterans Legal Link ar y gred y gallai cyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith ddefnyddio eu sgiliau i ddod â chyfiawnder cyfartal i gyn-filwyr a’u teuluoedd mewn angen sy’n byw yng Nghymru.

Gall myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth gofrestru ar gyfer yr interniaeth wirfoddol sy’n ddigon hyblyg i’w drefnu o amgylch eu hamserlen brysur ac sy’n cynnig dros 80 awr o brofiad academaidd ac ymarferol.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Cadeirydd Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion (CCLlAC) a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Roeddwn yn hynod falch o glywed y newyddion hyn ac fel Cadeirydd CCLlAC rwy’n gwbl gefnogol o’r cais gan fy mod yn gwybod y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i brosiect Veteran Legal Link (VLL).

“Mae hwn yn wasanaeth pwysig i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Mae’n cynnig cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cymorth arbenigol wedi’u teilwra i anghenion y defnyddwyr, gan sicrhau eu bod yn cael yr help a’r cymorth sydd ei angen arnynt.”

Gyda’r cyllid newydd yn ei le, bydd modd i’r VLL barhau gyda’r gwaith o helpu cyn-filwyr ledled Cymru, gyda’r nod hirdymor o ehangu i Loegr a’r Alban trwy rwydwaith o Brifysgolion ledled Prydain.

Llun: Dr Ola Olusanya o Ysgol y Gyfraith Aberystwyth

Rhannu |