Mwy o Newyddion
Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn cael cip olwg ar y Ganolfan Ddarlledu newydd
Bron i flwyddyn ers i’r gwaith ar gartref newydd y BBC yng nghanol dinas Caerdydd gychwyn, mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Tony Hall wedi ymweld â’r Sgwâr Canolog i weld y gwaith yn mynd rhagddo.
Wrth gyfarfod Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Phil Bale, Prif Weithredwr Rightacres, Paul McCarthy a rhai o’r gweithlu ar y safle, cafodd Tony Hall y cyfle i weld y gwaith o adeiladu’r ganolfan amlgyfrwng yn symud ymlaen.
Yn ogystal â chreu cartref mwy effeithlon i’r darlledwr cenedlaethol, mae disgwyl i ganolfan newydd y BBC yng Nghaerdydd greu budd economaidd o oddeutu £1.1bn i’r economi leol.
“Rwy’n falch iawn o weld sut mae canolfan ddarlledu newydd y BBC yng nghanol dinas Caerdydd yn datblygu,” medd Tony Hall.
“Mae effaith ein buddsoddiad yn y Sgwâr Canolog wedi cael effaith drawsnewidiol ac wedi datgloi un o’r prosiectau adfywio mwyaf i’r ddinas ei gweld yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae disgwyl i’r buddion economaidd i’r economi leol, o ganlyniad i’n penderfyniad i ddewis safle yng nghanol y ddinas fod yn fwy na £1biliwn dros y deng mlynedd nesaf.”
Ychwanegodd y Cyng Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd: “Mae’n wych gallu croesawu Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i Gaerdydd gan ddangos iddo’r gwaith anhygoel sy’n digwydd yn y Sgwâr Canolog.
"Mae buddsoddiad y BBC yn eu pencadlys Cymreig a buddsoddiad Cyngor y Ddinas yn y gyfnewidfa drafnidiaeth wedi sicrhau fod adfywio’r rhan yma o’r ddinas yn bosibl.
"Bellach, mae modd i bawb weld adeilad y BBC yn codi o’r ddaear tra bo Tŷ Marland yn cael ei dynnu i lawr wrth baratoi am yr orsaf fysiau a’r gyfnewidfa drafnidiaeth.
"Mae hi’n gyfnod cyffrous yn natblygiad Caerdydd wrth i ni edrych i adeiladu dinas i’r dyfodol a phorth i Gaerdydd a Chymru y gall pawb ymfalchïo ynddo.”
Llun: Y gwaith sydd wedi mynd rhagddo ar y Sgwâr Canolog (llun: Patrick Olner)