Mwy o Newyddion
Lansio arolwg cenedlaethol newydd i gael barn athrawon a staff cymorth yng Nghymru
Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi bod arolwg cenedlaethol newydd yn cael ei lansio i gael barn athrawon a staff cymorth ar hyd a lled Cymru.
Mae'r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o'r Gweithlu Addysg, a fydd yn cael ei gynnal gan Gyngor y Gweithlu Addysg, yn cynnig cyfle unigryw i'r proffesiwn roi eu barn am amrywiaeth o faterion sy'n effeithio arnynt.
Bydd yr arolwg yn cynnwys athrawon a gweithwyr cymorth mewn ysgolion ac mewn lleoliadau addysg bellach, gan gynnwys gweithwyr cyflenwi.
Bydd y cwestiynau yn yr arolwg yn cynnwys y themâu allweddol canlynol:
- Bod yn athro.
- Datblygiad proffesiynol.
- Rheoli perfformiad.
- Llwyth gwaith.
- Y cwricwlwm ac asesu.
- Y Gymraeg.
Bydd y canlyniadau yn helpu i fod yn sail i bolisïau Llywodraeth Cymru ac yn sylfaen ar gyfer arolygon yn y dyfodol.
Dywedodd Kirsty Williams: “Rwy am weithio'n agos â'r proffesiwn i helpu athrawon i fod cystal ag y gallan nhw fod, gan godi statws y proffesiwn yn gyffredinol.
"Heb athrawon brwd, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sydd â’r sgiliau angenrheidiol, allwn ni ddim cynnig i'n dysgwyr y cyfleoedd addysgol y maen nhw'n eu haeddu.
“Rwy'n falch i weithredu'r ymrwymiad maniffesto hwn, achos rwy o'r farn ei bod yn hanfodol inni wrando ar y proffesiwn a mesur eu barn mewn perthynas â nifer o feysydd allweddol.
"Bydd yr arolwg peilot hwn yn cynnig ffynhonnell defnyddiol o wybodaeth ar gyfer ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg.
"Mae'r arolwg yn dangos y gwerth a roddwn i'n gweithlu addysg a'n hymrwymiad i sicrhau bod y gweithlu hwnnw’n ganolog i ddatblygiadau ar faterion sy'n effeithio arnyn nhw.”
Dywedodd Angela Jardine, Cadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg: "Dyma'r tro cyntaf i'r gweithlu addysg yng Nghymru gael y cyfle i ddweud eu dweud am bopeth sy'n effeithio arnyn nhw – o lwyth gwaith i reoli perfformiad.
"Mae'n gyfle gwych i staff ar hyd a lled y wlad leisio eu barn gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bolisi addysg y dyfodol. Byddwn ni’n ystyried y canlyniadau yn ofalus, gan obeithio eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2017."
Llun: Kirsty Williams