Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2016

Estyn yn gofyn am farn ar gynigion ar gyfer newidiadau i arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Mae ymgynghoriad sy’n para mis, a lansiwyd heddiw gan Estyn, yn gofyn am farn athrawon, uwch arweinwyr, llunwyr polisi a phawb sydd â diddordeb mewn addysg ar gynigion ar newidiadau i’r ffyrdd y bydd ysgolion a darparwyr eraill yn cael eu harolygu o Fedi 2017.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd: “Mae gan arolygiadau ran annatod mewn sicrhau bod ein system addysg y gorau y gall fod.

"Y llynedd, fe wnaethom ni ofyn am eich barn ar newidiadau i’r ffordd rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant, ac fe gawsom ni dros 2,000 o ymatebion.

"Fe wnaethom wrando ar eich adborth a datblygu cynigion.  Hoffem gael eich barn ar y cynigion manwl hyn nawr.

“Mae hyn yn gyfle arall i ddylanwadu ar newidiadau i arolygiadau yng Nghymru.

"Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

Mae holiadur yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Estyn yn http://www.estyn.gov.wales/consultation

Mae Estyn hefyd yn croesawu adborth ar y broses arolygu y tu allan i’r holiadur, y gellir ei anfon trwy’r e-bost neu’i bostio i Estyn.

Mae’r cyfnod ymgynghori yn para tan ddydd Mercher 30 Tachwedd.

Llun: Meilyr Rowlands

Rhannu |