Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Tachwedd 2016

Ailgylchu yn arwain at fwy o gydweithio

Mae'r ddwy sir orau yng Nghymru am ailgylchu'n chwilio am ffyrdd i wella eu gwasanaethau gwastraff trwy gydweithio.

Mae timau rheoli gwastraff siroedd Ceredigion a Phenfro'n trafod sut i gadw at y targedau ailgylchu llym sydd ohoni trwy ddod ynghyd i rannu gwybodaeth ac arferion da.

Ar hyn o bryd mae Ceredigion yn ailgylchu 68% o'i gwastraff ac mae Sir Benfro'n ailgylchu 65%.

Mae'r awdurdodau eisoes yn cydweithio i anfon gwastraff y sachau duon i ganolfan hynod effeithlon yn Sweden sy'n cynhyrchu Ynni o Wastraff ac mae partneriaeth arall ar y gweill gyda Sir Benfro, Ceredigion a Phowys i ailgylchu gwastraff bwyd mewn cyfarpar treulio anaerobig sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer y Grid Cenedlaethol a bio-wrtaith i'w ddefnyddio ar dir amaethyddol.

Yn ddiweddar bu Cyngor Sir Ceredigion yn cydweithio â Chyngor Sir Benfro, i dreialu cynllun casglu gwydr er mwyn darparu'r gwasanaeth yn fwy cost effeithiol.

Sir Benfro sy'n darparu'r blychau, y cerbyd casglu a'r gyrrwr.

Bydd y rhan fwyaf o'r criw sy'n gweithio ar y cerbyd yn dod o Gyngor Sir Ceredigion.

Yn Aberteifi bydd y treial yn digwydd, yn agos at y ffin â Sir Benfro sy'n lle delfrydol i'r ddau awdurdod gydweithio â'i gilydd.

“Mae'r cydweithio'n fodd i'r ddau gyngor fynd ati i feithrin cysylltiadau a gwella eu perfformiad ac ar yr un pryd gallant chwilio am gyfleoedd i rannu'r arferion gorau a lleihau costau,” meddai'r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Portffolio Cyngor Sir Ceredigion â gofal dros Reoli Gwastraff.

“Mae gan Gynghorau Cymru dargedau llym iawn i'w cyflawni lle mae ailgylchu yn y cwestiwn ac felly y dylai hi fod wrth reswm ac er bod Ceredigion a Sir Benfro'n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd, mae'n rhaid gwella'n barhaus a helpu cadw Cymru ar y blaen o ran lleihau allyriadau carbon.

“Trwy gydweithio gyda Sir Benfro gallwn gyd-drafod a datblygu ffyrdd o wneud ein gwasanaethau'n fwy cynhyrchiol ac effeithlon gan ailgylchu mwy a lleihau costau'r gwasanaeth.”

Does dim cynigion pendant hyd yma ynglŷn â datblygu gwasanaeth ar y cyd â Sir Benfro, mae trafodaethau wedi dechrau ac mae'r Cynghorydd Williams yn awyddus i weld ffrwyth y trafodaethau hynny.

"Mae pwysau ar bawb i ddarparu gwasanaethau cost effeithiol ac mae'n rhaid ystyried y posibiliadau i gyd," meddai.

Rhannu |