Mwy o Newyddion
Aberaeron wedi’i ddewis y Lle Gorau yng Nghymru
Mae Aberaeron, y dref wyliau glan môr ddeniadol ar arfordir gorllewinol Cymru, wedi’i choroni heddiw yn enillydd y gystadleuaeth Lleoedd Gorau yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth hon, a gynhelir ledled y wlad, ac a drefnir gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, yn clodfori’r lleoedd a gaiff eu gwarchod, eu cynllunio’n ofalus neu eu gwella gan y system gynllunio ar gyfer cymunedau.
Pleidleisiodd bron i 5,500 o bobl ar restr fer o 10 o leoedd, ac Aberaeron ddaeth i’r brig fel y lle mwyaf poblogaidd.
Dinbych-y-pysgod, y dref gaerog arfordirol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Gŵyr, yr Ardal gyntaf o Harddwch Naturiol Eithriadol ym Mhrydain, ddaeth yn ail a thrydydd yn eu trefn.
Wrth gyflwyno’r wobr i Faer Aberaeron, dywedodd Llywydd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Phil Williams: “Mae Aberaeron yn llwyr haeddu ennill y teitl - ‘Y Lle Gorau yng Nghymru’.
"Mae effaith cynllunio yn amlwg yma wrth i chi gerdded drwy’r dref, sydd wedi’i chynllunio’n ofalus mewn arddull Georgaidd o amgylch yr harbwr.
"Mae Cynllunwyr wedi bod yn warcheidwaid pwysig o gymeriad y dref hon wrth iddi newid dros y 200 mlynedd diwethaf - o fod yn bentref pysgota bychan, i borthladd masnachu a thref adeiladu llongau ffyniannus i’r hyn a yw hi heddiw, sef canolfan fusnes fywiog a man poblogaidd i dwristiaid.
"Rwy’n falch iawn, fel Cymro, o fod wedi cael y cyfle i amlygu’r amrywiaeth ragorol o leoedd yng Nghymru sydd wedi’u gwarchod, eu cynllunio’n ofalus neu eu gwella gan gynllunwyr.”
Dywedodd Maer Aberaeron, Rhys Davies: "Rwyf mor falch bod Aberaeron wedi ennill y gwobr arbennig hwn gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.
"Mae'n rhywbeth y gall trigolion Aberaeron fod yn falch ohono, lle sy’n bwysig iawn i ni.
"Gem o dref yw Aberaeron, gyda’i harddwch byth yn methu i ddal calonnau ymwelwyr.
"Mae'n un o'r trefi a dynnwyd llun ohono fwyaf yn y DU, ac eto yn cael ei gynnal fel cyrchfan i ymwelwyr poblogaidd iawn.
"Mae hyn yn waith caled a hoffwn ddiolch i'r gymuned o fusnesau a'n holl drigolion sy'n cynnal eu heiddo mor dda, sydd o fudd mawr i'n diwydiant twristiaeth.
"Byddwn, wrth gwrs, yn gwneud defnydd llawn o'r gydnabyddiaeth a roddwyd i ni i bawb a bleidleisiodd drosom drwy hyrwyddo ein tref ymhellach ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol, sydd nid yn unig o fudd i Aberaeron, ond Ceredigion yn ei gyfanrwydd.”
Meddai Peter Lloyd, Cadeirydd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru: “Llongyfarchiadau i Aberaeron, a adnabyddir yn hoffus fel ‘Trysor Bae Aberteifi’.
"Nid yw’n syndod mai’r dref glan môr swynol hon, gyda’i bythynnod lliwgar o gwmpas yr harbwr, yw ffefryn y cyhoedd.
"Mae’r gystadleuaeth hon wedi ein hatgoffa o ba mor bwysig yw cynllunwyr a’r system gynllunio o ran sicrhau bod lleoedd yn cael eu gwarchod, eu llunio a’u gwella.
"Mae Aberaeron yn un o’r trefi cyntaf i gael ei chynllunio yng Nghymru, ac ers hynny mae wedi’i datblygu a’i rheoli gan y system gynllunio i fod yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid sydd hefyd yn darparu gwasanaethau i gymunedau yn ei chefnwlad eang.
"Rhoddodd gwaith cynllunio’r dref gan y Cyrnol Alban Gwynne a’r pensaer, Edward Haycock, enw da iddi fel “un o’r enghreifftiau gorau o faestref gynlluniedig ar raddfa fechan yng Nghymru."
Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cynghorydd Sir dros Ward Aberaeron, "Rwy'n falch iawn bod Aberaeron wedi ennill gwobr Lle Gorau Cymru RTPI.
"Roeddem mewn rhestr fer anodd iawn o leoedd gwych, sy'n gwneud dod i’r brig yn fwy arbennig.
"Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd ar gyfer ein tref hardd a gwn y bydd trigolion Aberaeron mor falch ag yr wyf fi, fod ein tref wedi derbyn y wobr hon.
"Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, ddiolch i'r Parch Alban Gwynne, y dyn a wnaeth y cyfan yn bosibl nôl yn 1807, am gael y weledigaeth i gynllunio lle mor hyfryd. Heddiw, rydym yn geidwaid ei etifeddiaeth yn unig; y dref wych yma, Aberaeron."
Y 10 a ddaeth i'r rhestr fer yw: Aberaeron (Ceredigion); Caernarfon (Gwynedd); Harbwr Mewnol Bae Caerdydd (Caerdydd); Dinbych (Sir Ddinbych); Gŵyr (Abertawe); Yr Ais (Caerdydd); Promenâd Llandudno a Stryd Mostyn (Conwy); Canol Tref Merthyr Tudful (Merthyr Tudful); Eryri (Parc Cenedlaethol Eryri) a Dinbych-y-pysgod, (Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).