Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011
Karen Owen

Angerdd ac ymroddiad

BU farw’r seiciatrydd a chyn-gadeirydd Plaid Cymru, y Dr Dafydd Huws. Roedd yn 75 mlwydd oed ac wedi bod yn brwydro yn erbyn canser ers rhai blynyddoedd.

Wrth dalu teyrnged i’r gŵr a ddaeth yn gynghorydd cyntaf y blaid fach yn ward Plasmawr ar gyngor Caerdydd yn 1969, yn ogystal â chadeirio a sefyll yn enw Plaid Cymru mewn etholiadau seneddol ac Ewropeaidd dros gyfnod o 40 mlynedd, dywedyd Ieuan Wyn Jones bod “angerdd” ac “ymroddiad” Dafydd Huws i’w wlad “yn amlwg i bawb”, a bod Cymru “yn wlad dlotach hebddo”.

Bydd nifer, yn siŵr, yn cofio ei wladgarwch a’i wleidyddiaeth. Bydd eraill yn cofio ei gyfnod yn seiciatrydd ymgynghorol yn Ysbyty’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a’i ffydd yn nynoliaeth. Bydd rhai eto fyth yn cofio’r modd y safodd yn gadarn o blaid codi melinau gwynt ar hen fferm y teulu ar Fynydd Gorddu ger Tal-y-bont, Ceredigion, a hynny ar ôl teithio i Ddenmarc a dotio at y ffordd yr oedd y wlad honno’n defnyddio egni glân i gynhyrchu trydan a chreu swyddi.

Efallai y bydd rhai’n dymuno cofio ei gyfraniadau ar raglen Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru, fel aelod o dîm Y Dwrlyn, yn enwedig ei gyfeiriadau calon-gynnes at ei deulu a’i gi defaid. Ond fydd neb yn anghofio ei wên lydan a’i angerdd ym mhob peth. Wrth ddadlau gwleidyddiaeth. Wrth ymrysona. Wrth amddiffyn ei gynlluniau i godi mwy o felinau gwynt. Wrth fynd i’r afael â’r tabŵs olaf un yn seiciatreg y pedoffeil a’r rheiny ar ymylon cymdeithas. Ac yna, dros y blynyddoedd olaf, wrth ymladd clefyd y diafol mor ddewr.

Mae’n gadael gweddw, Rhian, a phump o blant – Gwenan, Aled, Elen, Carys a Geraint.

Rhannu |