Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Hydref 2016

Torri tywarchen ym Mharc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru

Roedd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ar Ynys Môn heddiw i dorri tywarchen ym Mharc Gwyddoniaeth penodol cyntaf Cymru.

Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn ddatblygiad £20m o fewn Ardal Fenter Ynys Môn a fydd yn agor ei ddrysau yn 2018.

Bydd y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol hwn, a fydd yn darparu cyfleusterau swyddfa a labordy o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau arloesol yn y rhanbarth, yn elwa ar £10.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a £10.2m o Gronfa Datblygu Ewrop. 

Amcan M-SParc yw dod â buddiannau economaidd, gwyddonol a thechnolegol i ranbarth y Gogledd, ac ategu’r buddsoddiad sylweddol yn Wylfa Newydd trwy gefnogi’r gadwyn gyflenwi ehangach.

Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar y sectorau carbon isel ac ynni adnewyddadwy, yn helpu i gryfhau partneriaethau academaidd a busnes ac yn gweithio i ddatblygu economi wybodaeth y Gogledd.

Wrth siarad cyn seremoni torri’r dywarchen, meddai Ken Skates: “Mae’n wych gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, ar ôl derbyn dros £20m o nawdd gan Lywodraeth Cymru a’r UE.

“Y Parc Gwyddoniaeth yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac unwaith y bydd ei ddrysau wedi agor, rwy’n hyderus y daw â buddiannau mawr i ranbarth y Gogledd.

“Bydd M-Sparc yn canolbwyntio ar y sectorau carbon isel ac ynni adnewyddadwy.  Bydd hynny’n ategu’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan y Fenter Ynys Ynni ac Ardal Fenter Ynys Môn, yn helpu busnesau lleol i greu swyddi ac yn sicrhau twf economaidd cynaliadwy.

“Mae gan y datblygiad y potensial i ddod â manteision economaidd real iawn i Ynys Môn ac i ranbarth y Gogledd ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld y Parc yn agor ei ddrysau yn 2018.”

Meddai’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Ieuan Wyn Jones: “Rydyn ni wedi gorfod gweithio’n galed i gyrraedd lle ydyn ni heddiw, ac mae’n dda gweld gwaith yn dechrau ar y safle.

“Y tu ôl i’r llenni, rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddenu tenantiaid ac mae gennym nifer o gwmnïau eisoes wedi arwyddo fel Tenantiaid Rhithiol.

"Rydyn ni’n falch ein bod yn gallu cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i’r cwmnïau hyn.

"Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o’r rhanbarth a da yw gallu datgan felly bod y galw’n bod yn y rhanbarth am Barc Gwyddoniaeth.” 
 

Rhannu |