Mwy o Newyddion
Dathlu campau Caryl Lewis
Bydd gwaith un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, Caryl Lewis, yn cael ei ddathlu mewn noson arbennig yn Theatr Felinfach yn Nyffryn Aeron yr wythnos hon.
Ar nos Iau. 3 Tachwedd, am 7 o’r gloch yn Theatr Felinfach yng Ngheredigion bydd noson yn edrych yn ôl ar rai o gampweithiau Caryl Lewis gyda ddarlleniadau a pherfformiadau byrion gan Gwmni Actorion Theatr Felinfach a lansio’r gyfrol newydd, Y Gwreiddyn.
Mae Caryl Lewis yn byw ym mhentref Goginan ger Aberystwyth gyda’i gŵr a’u tri o blant.
Bu’n flwyddyn brysur a llwyddiannus i Caryl eleni gyda ennill gwobr driphlyg gyda’i nofel Y Bwthyn yn ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2016 a nawr cyhoeddi cyfrol newydd o straeon.
"Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous a blinedig! Mae rhywun yn cael cyfnode o greadigrwydd pan mae syniadau yn codi i’r wyneb o hyd ac wedyn mae syniade yn esgor ar syniade eraill," meddai Caryl.
"Ond mae’n bwysig cymryd mantais o gyfnode felly a gwneud beth mae’r syniade yn eich gyrru chi i wneud."