Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Hydref 2016

Mis i fynd tan dyddiad cau cyntaf Eisteddfod 2017

Mae dyddiad cau cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn agosáu.

Mis yn unig sydd i fynd tan 1 Rhagfyr, sef y dyddiad pan fo’n rhaid i geisiadau ar gyfer y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen gael eu cyflwyno er mwyn eu hanfon at y beirniaid.

Beirniaid Y Fedal Ryddiaith eleni yw Francesca Rhydderch, Lleucu Roberts a Gerwyn Wiliams, a thema’r gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau yw Cysgodion.

Cyflwynir y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol Môn 1957.

Cyflwyno nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 gair yw’r gamp i’r rheiny sy’n cystadlu yng Ngwobr Goffa Daniel Owen, a’r beirniaid a fydd yn treulio misoedd y gaeaf yn darllen ac yn dadansoddi’r gwaith yw Bethan Gwanas, Tony Bianchi a Caryl Lewis.

Bydd enillydd y gystadleuaeth hon yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, gyda’r wobr ariannol yn rhoddedig gan Ann Clwyd er cof am ei phriod Owen Roberts, Niwbwrch.

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: “Mae’n rhyfedd meddwl bod dyddiad cau cyntaf Ynys Môn brin fis i ffwrdd, a phawb yn dal i siarad a thrafod yr Eisteddfod eleni yn Sir Fynwy.

"Ond ychydig wythnosau yn unig sydd ar ôl os ydych chi’n bwriadu anfon eich nofel neu’ch cyfrol atom, felly mae’n bryd mynd ati i gwblhau’r gwaith yn fuan iawn.

“Dyma gychwyn ar gyfnod prysur y dyddiadau cau, a bydd y dyddiadau cyfansoddi yn parhau tan 1 Ebrill, gyda’r dyddiad cau ar gyfer y cystadleuwyr llwyfan ar 1 Mai. 

"Gobeithio y bydd tomen o geisiadau yn ein cyrraedd ar 1 Rhagfyr ac ar bob un o’r dyddiadau cau eraill dros y misoedd nesaf.

“Mae’r gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn mynd yn arbennig o dda, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen am wythnos arbennig iawn ar gyrion pentref Bodedern yng ngogledd yr ynys.

"Mae brwdfrydedd a gweithgarwch y trigolion lleol wedi bod yn arbennig, ac rwy’n sicr ein bod ni’n mynd i gael modd i fyw ym Môn y flwyddyn nesaf.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn o 4-12 Awst.  Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, http://www.eisteddfod.cymru

Llun: Elen Elis

Rhannu |