Mwy o Newyddion
Leanne Wood: Brexit yn cryfhau'r achos o blaid system gyfreithiol i Gymru
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud heddiw fod pleidlais y DG i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cryfhau'r achos o blaid creu system gyfreithiol ar wahân i Gymru.
Dywedodd Leanne Wood fod y DG yn wynebu 'cyfnod o gythrwfl cyfansoddiadol' a bod rhaid i Gymru gael ei grymuso i fedru gwneud penderfyniadau fydd yn gwarchod buddiannau ei heconomi a'i chymunedau.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru hefyd, os yw'r Mesur Cymru presennol yn methu â datrys y cwestiwn o greu system gyfreithiol i Gymru - datblygiad sydd bellach wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ac o blith y proffesiwn - yna bydd angen bil arall arwahan.
Meddai: "Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd nawr yn golygu fod y Deyrnas Gyfunol yn wynebu cyfnod o gythrwfl cyfansoddiadol.
"Bydd rhaid datgymalu sawl darn o ddeddfwriaeth gyda phwerau'n dychwelyd o Frwsel mewn sawl maes polisi.
"Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers cryn amser fod ar Gymru angen system gyfreithiol ar wahân i ni allu gweinyddu'r cyfreithiau sy'n cael eu pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn modd priodol. Cymru nawr yw'r unig wlad yn y byd gyda deddfwrfa ond dim awdurdodaeth ei hun.
"Wrth i benderfyniadau tyngedfennol gael eu gwneud yn San Steffan fydd yn effeithio pob rhan o'r DG, rhaid i Gymru gael ei grymuso i allu gwarchod buddiannau ein gwlad.
"Golyga hyn gael y gallu i wneud penderfyniadau sy'n gwasanaethu anghenion unigryw ein heconomi a'n cymunedau, yn hytrach na gadael i benderfyniadau sy'n effeithio Cymru gael eu gwneud gan y wlad drws nesaf.
"Rhaid i ni hefyd gael yr isadeiledd cyfreithiol cywir yng Nghymru i ddelio gydag unrhyw bwerau fydd yn dychwelyd o Frwsel i'r Cynulliad. Do, pleidleisiodd pobl i adael, ond ni wnaethant bleidleisio i ganoli pwerau yn San Steffan.
"Os nad yw'r cwestiwn o system gyfreithiol i Gymru'n cael ei ddatrys ar frys, mae perygl y byddwn yn troi'n endid 'LloegraChymru' gyda statws Cymru fel cenedl eilradd o fewn hynny'n cael ei gadarnhau.
"Mae'r Bil Cymru sy'n pasio drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn gyfle i fynd i'r afael â'r perygl hwn. Bydd methiant i wneud hyn yn sbarduno'r angen am fil newydd, ar wahan.
"Rwy'n annog pob plaid yng Nghymru i uno y tu ôl i awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y gall ein cenedl lunio dyfodol ol-Frexit unigryw a fydd yn rhoi gwell siawns i ni o sicrhau tegwch a ffyniant i'n holl gymunedau."