Mwy o Newyddion
Castell Caernarfon yn croesawu bron i 40,000 o ymwelwyr yn ystod pythefnos cyntaf arddangosfa Poppies: Weeping Window
Yn ystod pythefnos cyntaf arddangosfa Poppies: Weeping Window mae staff Cadw a gwirfoddolwyr Cymru dros Heddwch wedi croesawu bron i 40,000 o ymwelwyr i Gastell Caernarfon.
Cyflwynodd gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, sef Cadw, gynnig llwyddiannus i gynnal yr arddangosfa drawiadol yng Nghastell Caernarfon, a hynny mewn partneriaeth â phrosiect ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Daeth yr arddangosfa Poppies: Weeping Window, gan yr artist Paul Cummins a’r cynllunydd Tom Piper, i Gymru am y tro cyntaf yn gynharach y mis hwn fel rhan o daith ar draws y DU a drefnwyd gan 14-18 NOW, sef rhaglen y DU ar gyfer y celfyddydau sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Agorodd yr arddangosfa yng Nghastell Caernarfon yn swyddogol i’r cyhoedd ar 11 Hydref yn dilyn digwyddiad lansio arbennig ar 10 Hydref. Ers hynny mae’r arddangosfa wedi bod yn atyniad eithriadol o boblogaidd, ac mae’r ffigurau ymwelwyr yn dangos bod 38,256 o bobl wedi ymweld â hi rhwng 10 a 23 Hydref.
Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr wedi croesawu pob ymwelydd a thrafod â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn elwa i’r eithaf ar eu hymweliad a hefyd wedi treulio oriau’n gwrando ar lawer o ymwelwyr ac yn trafod eu rhesymau am ddod a’r hyn y mae’r arddangosfa yn ei golygu iddyn nhw. Mae llawer o’r straeon a’r profiadau wedi bod yn rhai emosiynol sydd wedi’u cyffwrdd i’r byw.
Mae’r staff a’r ymwelwyr hefyd wedi helpu’r ymwelwyr hynny sy’n awyddus i sicrhau bod eu hatgofion, eu straeon a’u sylwadau’n cael eu cofnodi a’u casglu fel rhan o archif ehangach sydd wrthi’n cael ei greu ar draws Cymru er mwyn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wrth groesawu’r ffigurau ymwelwyr a llwyddiant Castell Caernarfon wrth gynnal arddangosfa Poppies: Weeping Window, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: “Mae’r ffaith bod Castell Caernarfon wedi cael cyfle i gyflwyno arddangosfa Weeping Window yn rhywbeth y dylai pobl Cymru ymfalchïo ynddo. Ardderchog yw gweld bod cynifer o bobl wedi manteisio ar y cyfle hwn i’w gweld.
“Mae’r arddangosfa’n ffordd briodol iawn o nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a hoffwn ddiolch i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod modd i Gastell Caernarfon groesawu Poppies: Weeping Window.”
Dywedodd Nigel Hinds, Cynhyrchydd Gweithredol, 14-18 NOW: “Rwy mor falch fod cymaint o bobl wedi manteisio ar y cyfle i weld y pabïau yng Nghastell Caernarfon.
"Priodol iawn yw’r ffaith bod y Pabïau yn y Castell yn ystod cyfnod cofio canmlwyddiant wythnosau olaf Brwydr y Somme, gan fod y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wedi chwarae rhan mor bwysig yn y frwydr honno.
"Rwy’n ddiolchgar iawn i lywodraeth y DU a’n holl noddwyr, ac yn arbennig y Backstage Trust, a’n noddwyr cludiant DAF Trucks, am ein galluogi i arddangos y pabïau am y tro cyntaf yng Nghymru.”
Un o ddwy arddangosfa sy’n rhan o’r cyfanwaith Blood Swept Lands and Seas of Red – gan yr artist Paul Cummins (a fu’n gyfrifol am y pabïau a’r syniad gwreiddiol) a Tom Piper (a fu’n gyfrifol am y cynllunio) – gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â Phalasau Brenhinol Hanesyddol yw’r Weeping Window.
Cafodd ei gosod yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014 ac roedd 888,246 o babïau yn rhan o’r arddangosfa honno, un i anrhydeddu pob person o Brydain a’r Gwladfeydd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y casgliad o babïau a gafodd eu gweld yn llifo o ffenestr uchel i lawr i’r glaswellt oddi tano yw’r Weeping Window. Mae’r ail arddangosfa, sef Wave, hefyd ar daith o amgylch y DU.
Bydd modd i’r cyhoedd ymweld â’r arddangosfa o fewn muriau Castell Caernarfon bob dydd hyd 20 Tachwedd.
Mae modd archebu tocynnau bore a phrynhawn ymlaen llaw am ddim ar-lein drwy wefan Eventbrite Cadw. Gall 1,000 yn ychwanegol o bobl hefyd gael tocynnau ar y drws bob dydd.
I weld yr holl fanylion ewch i: http://www.1418now.org.uk
I archebu tocynnau ymlaen llaw i weld y Weeping Window yng Nghastell Caernarfon ewch i: http://www.caernarfonpoppies.eventbrite.co.uk