Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Hydref 2016

Goleuadau ynni dŵr newydd yn goleuo dyfodol plant Uganda

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Bumayoka ym Mbale, Uganda i gynnau'r goleuadau ynni isel newydd fydd yn cael eu pweru gan gyfleusterau ynni dŵr a gafodd eu gosod y llynedd.

Mae Cymru wedi chwarae rôl allweddol yn y prosiect hwn, gydag elusen PONT yn cefnogi’r prosiect ynni dŵr sy’n pweru’r goleuadau LED newydd a roddwyd gan Sedna Lightning mewn partneriaeth â rhaglen Cymru o Blaid Affrica y Llywodraeth.

Bydd y goleuadau eco-gyfeillgar, cynaliadwy hyn sy'n cael eu pweru gan ddŵr lleol yn galluogi i blant yr ysgol barhau â'u gwersi ar ôl iddi dywyllu gan oleuo'r dosbarthiadau diffenestr.

Mae Vaughan Gething yn Uganda fel rhan o ddathliadau dengmlwyddiant rhaglen Cymru o Blaid Affrica i weld rhai o'r prosiectau ac i gwrdd â rhai o'r bobl sydd wedi elwa ar y cynllun llwyddiannus hwn.

Ar ôl iddo gynnau'r goleuadau am y tro cyntaf, dywedodd Vaughan Gething: "Mae’r prosiect hwn yn un o blith nifer o brosiectau cadarnhaol dw i wedi eu gweld hyd yn hyn ar fy nhaith o amgylch Uganda i ddathlu rhaglen Cymru o Blaid Affrica.

“Mae'r goleuadau hyn sydd wedi cael eu rhoi gan Sedna Lighting, ynghyd â'r cyfleusterau ynni dŵr gan PONT yn mynd i drawsnewid bywydau plant ysgol gynradd Bumayoka a'r gymuned gyfan.

“Fydd y tywyllwch ddim yn rhwystr i'w haddysg bellach. Mae ganddyn nhw ddyfodol disglair o'u blaenau."
 

Rhannu |