Mwy o Newyddion
Ffair wirfoddoli Sir Fynwy'n creu 'gwaddol gwirfoddoli' ar ôl yr Eisteddfod
Oeddech chi’n un o’r 200 o wirfoddolwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni?
Oes gennych chi rai oriau i’w sbario’n rheolaidd? Hoffech chi gefnogi elusen leol neu genedlaethol?
Os felly, dewch draw i’r Kings Arms yn Y Fenni ddydd Iau 17 Tachwedd i glywed mwy am gyfleoedd gwirfoddoli yn Sir Fynwy a’r ardal leol.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o’r prosiectau cymunedol mwyaf yn y DU, ac yn dilyn llwyddiant eleni, mae trefnwyr yn cydweithio gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Cyngor Sir Fynwy, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o bartneriaid eraill i hybu cyfleoedd gwirfoddoli’n lleol.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Elfed Roberts: “Roedd ein gwirfoddolwyr cymunedol ar draws Sir Fynwy’n ardderchog.
"Bu’r tîm yn gweithio’n ddiflino am bron i ddwy flynedd yn codi ymwybyddiaeth ac arian ac yn paratoi ar gyfer yr ŵyl.
"Roedd pawb yn frwdfrydig iawn wrth weithio gyda ni i hyrwyddo’r Eisteddfod i bobl Sir Fynwy.
“Gan ein bod yn ŵyl sy’n ymweld ag ardal wahanol o Gymru bob blwyddyn, rydym wedi troi ein golygon at Ynys Môn ar gyfer 2017, a byddwn yn ymweld â Chaerdydd yn 2018, ond rydym yn awyddus i annog gwirfoddolwyr yr Eisteddfod i ystyried gweithio gyda chyrff lleol sy’n chwilio am gefnogaeth ar hyn o bryd.
"Dyma’r tro cyntaf i ni weithio ar brosiect fel hyn, a’r gobaith yw creu ‘gwaddol gwirfoddoli’ yn yr ardal.”
Ychwanegodd Owen Wilce, Swyddog Gwirfoddoli i Gyngor Sir Fynwy: “Roedd yr Eisteddfod yn brofiad gwych i’r ardal ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant i’r dyfodol.
“Mae’r digwyddiad yn y Kings Arms yn Y Fenni yn gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth am wirfoddoli gyda phwyslais ar sefydliadau’n cydweithio i ddatblygu’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol a chreu ‘pŵl’ mwy o unigolion sy’n fodlon rhoi’u hamser i fudiadau lleol a chenedlaethol sy’n weithgar yma.”
Mae dwy sesiwn wedi’u trefnu yn y Kings Arms, y gyntaf am 14.00 a’r ail am 16.30 ar 17 Tachwedd.
Bydd amryw o sefydliadau o’r sector wirfoddol, gan gynnwys cyrff cyhoeddus a chymdeithasau tai yn y digwyddiadau i sôn am y cyfleoedd gwirfoddoli ar gael.
Gellir cofrestru ar gyfer y sesiynau, naill ai ar-lein, http://www.gavowales.org.uk/volunteering, neu drwy gysylltu â Chanolfan Wirfoddoli Sir Fynwy, a weinyddir gan CMGG ar 01633 241 566.
Llun: Elfed Roberts