Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Hydref 2016

Gallai 600,000 o gartrefi Cymru arbed £180m drwy newid cyflenwr ynni

Collodd cartrefi yng Nghymru y cyfle i arbed cyfanswm o £180 miliwn y flwyddyn ddiwethaf am iddynt beidio newid eu cyflenwr ynni.

Mae ffigurau gan OFGEM yn dangos y gellid gwneud arbedion o tua £300 eleni drwy newid cyflenwr ynni, ond mae arolwg Ipsos MORI newydd gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni wedi darganfod bod mwy na 600,000 o gartrefi ar ‘Awtobeilot Ynni'.

Mae bron i 60 y cant o'r rhai nad ydynt wedi newid eu cyflenwr yn credu eu bod ar y tariff ynni rhataf sydd ar gael, sy'n annhebygol.

Mae hyn yn wir er gwaetha’r ffaith mai dim ond 30 y cant o'r holl bobl sy’n talu biliau sy’n credu bod cyflenwyr ynni yn gwneud ymdrech ragweithiol i annog teyrngarwch eu cwsmeriaid.

Gellir cyferbynnu hyn â’r ffaith ein bod fwy na dwywaith mor debygol o newid yswiriwr ein cartref na’n darparwr ynni - gyda 24 y cant o gartrefi wedi newid yswiriwr o leiaf bedair gwaith yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae'r ffigurau wedi cael eu datgelu o flaen yr Wythnos Fawr Arbed Ynni, ymgyrch ledled y DU a gynhelir ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Cyngor ar Bopeth a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).

Cynhelir yr Wythnos rhwng 31 Hydref a 6 Tachwedd a bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru i gynnig cyngor ar leihau costau ynni a helpu pobl i gadw eu cartrefi’n gynnes wrth i’r gaeaf ddynesu.

Mae gan Gyngor ar Bopeth dwlsyn cymharu prisiau arlein i helpu talwyr biliau ddod o hyd i gyflenwr rhatach. Mae hwn yn gwbl ddiduedd ac mae’n dangos prisiau gan bob cyflenwr ynni, felly mae'n cynnig dull hawdd a chyflym o weld a ellir cael gwell bargen.

Meddai Philip Sellwood, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni: "Mae llawer o dalwyr biliau yng Nghymru yn colli allan ar arbedion blynyddol sylweddol oherwydd eu bod yn tybio eu bod ar y tariff gorau heb fynd ati i wirio hynny.

"Mae prisiau yn amrywio bob blwyddyn, felly trwy beidio â newid, a bod ar ‘Awtobeilot Ynni', gall defnyddwyr fod yn llithro’n ddiarwybod tuag at golli arian.”

Meddai’r Gweinidog dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Chyfrifoldeb Corfforaethol, Margot James: "Mae miliynau o bobl eisoes wedi newid cyflenwr ac wedi arbed arian eleni, ond rydym yn gwybod y gall rhai pobl ei chael yn anodd dod o hyd i'r fargen orau.

"Bydd yr Wythnos Fawr Arbed Ynni yn helpu pobl ledled y wlad i ddysgu sut y gallent arbed arian ar eu biliau ynni (gallai nifer fawr arbed tua £300) wrth i ni greu gwlad sy'n gweithio ar ran pawb.”

Dywedodd Gillian Guy, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth: "Mae newid cyflenwr nwy a thrydan yn gallu helpu pobl i leihau eu biliau.

“Drwy wirio’u tariff presennol a chymharu prisiau yn rheolaidd gall pobl weld y bargeinion newydd gorau a newid i gyflenwr sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian iddynt.

"Bydd Cyngor ar Bopeth yn cynnal digwyddiadau mewn cymunedau lleol drwy gydol yr Wythnos Fawr Arbed Ynni, lle y gall pobl ddysgu am sut i arbed ynni, inswleiddio eu cartrefi a chymharu prisiau er mwyn lleihau eu biliau.”

Mae Wythnos Fawr Arbed Ynni yn rhoi cyngor i bobl dros y ffôn drwy'r Gwasanaeth Cyngor Arbed Ynni ar 0300 123 1234, neu wyneb-yn-wyneb mewn cannoedd o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar draws Cymru a thu hwnt. I ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi, ewch i http://bigenergysavingweek.org.uk

I weld faint y gallech chi ei arbed ar eich bil ynni, gallwch ddod o hyd i dwlsyn cymharu prisiau Cyngor ar Bopeth drwy fynd i http://energycompare.citizensadvice.org.uk

Rhannu |