Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Hydref 2016

Plant ysgol yn stopio 56 o yrwyr am oryrru

Mae cyfanswm o 56 o yrwyr wedi cael eu stopio gan blant ledled Sir Gaerfyrddin am yrru'n rhy gyflym y tu allan i'w hysgolion.

Mae disgyblion ysgolion cynradd Cae’r Felin ym Mhencader, Dafen, Cross Hands, Pen-bre a Drefach wedi bod yn gweithredu er mwyn arafu modurwyr.

Cafodd y disgyblion gwmni swyddogion o Uned Diogelwch Ffyrdd y Cyngor yn ogystal â swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Defnyddion nhw ddyfais dynodi cyflymder i ganfod cyflymder y modurwyr oedd yn pasio.

Mae'r ddyfais yn fflachio'r cyflymder ynghyd ag wyneb hapus os ydyn nhw o fewn y terfyn cyflymder neu wyneb trist os ydyn nhw dros y terfyn cyflymder.

Cafodd y gyrwyr a gafodd eu dal yn gyrru'n rhy gyflym ddewis o un ai esbonio wrth y disgyblion pam yr oedden nhw'n gyrru'n rhy gyflym neu gael dirwy o £100 a thri phwynt cosb.

Stopiodd disgyblion Cae’r Felin 17 gyrrwr, gan siarad ag 16 ohonyn nhw; yn Nafen stopiwyd tri char a siaradodd y plant â dau yrrwr.

Stopiwyd 18 o geir yn Cross Hands a siaradodd y disgyblion ag 17 ohonyn nhw; roedd disgyblion Pen-bre wedi stopio saith car ac wedi siarad â phedwar gyrrwr; yn Nrefach stopiwyd 11 car a chafwyd sgwrs â saith gyrrwr.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth: “Mae'n peri pryder mawr fod cymaint o fodurwyr yn parhau i yrru'n rhy gyflym y tu allan i'n hysgolion.

“Mae gorfod wynebu'r plant ac ateb eu cwestiynau yn gallu bod yn brofiad sy'n sobreiddio'r gyrwyr.

“Gobeithio y bydd y fenter hon yn gwneud i bobl feddwl am eu cyflymder wrth deithio a'r effaith a gaiff ar gymunedau lleol a diogelwch ein plant.”

Rhannu |