Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Hydref 2016

AS Plaid Cymru i eistedd ar Bwyllgor Brexit dylanwadol Tŷ'r Cyffredin

Mae Plaid Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio sedd ar Bwyllgor Dethol Gadael yr UE – pwyllgor dylanwadol a elwir hefyd yn Bwyllgor Brexit.

Roedd y blaid wedi ysgrifennu at Arweinydd y Tŷ Cyffredin i’w annog i  sicrhau fod y pwyllgor yn cynnwys cynrychiolaeth deg o bob un o bedair cenedl y DG, ac y byddai Plaid Cymru yn cael sedd.

Dywedodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a llefarydd Plaid Cymru ar Fasnach Ryngwladol, y byddai’n defnyddio ei sedd ar y pwyllgor i sicrhau y bydd buddiannau Cymru’n cael eu cynrychioli ac na fyddai pobl Cymru’n gorfod dibynnu ar “Brif Weinidog Llafur tawel ac ufudd” i ddadlau eu hachos.

Bydd y Pwyllgor yn cynnwys 20 AS – 16 o Loegr, 2 o’r Alban ac 1 o Gymru a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Jonathan Edwards: “Mae’n hanfodol fod Cymru’n cael ei chynrychioli ar y pwyllgor pwysig hwn ac rwy’n falch fod ymdrechion i sicrhau hynny wedi bod yn llwyddiannau.

"Bydd gan Gymru nawr lais yn y cyfnod allweddol hwn i ddyfodol ein gwlad a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau fod ein buddiannau’n cael eu gwarchod a’i hyrwyddo yn ystod gwaith y pwyllgor ar Brexit.

“Mae gan Gymru anghenion unigryw am fod ein heconomi’n cael ei gyrru gan allforion a manwerthu – rhywbeth nad yw’n wir am weddill y DG.

"Mae ein masnach gyda dim ond gwledydd yr UE ynghlwm a 200,000 o swyddi ac rydym yn masnachu hyd yn oed yn fwy gyda gwledydd y tu allan i’r UE na’r tu mewn iddi.

“Rwy’n parchu canlyniad y refferendwm ac yn derbyn y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n hanfodol nad yw Cymru’n colli ei haelodaeth o’r farchnad sengl o ganlyniad.

"Mae ffactor sydd cyn bwysiced â’n masnach gyda’r farchnad sengl sef y masnach rydd yr ydym yn elwa ohono o ganlyniad i 53 cytundeb masnach y farchnad honno gyda gwledydd eraill ledled y byd

" Byddai colli hynny’n niweidiol tu hwnt i’n heconomi – rhywbeth na all Cymru ymdopi ag e am ein bod eisoes wedi dioddef tranc ein diwydiannau.

“Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu y bydd hi’n ceisio sicrhau cytundebau arbennig i’r bancwyr yn Ninas Llundain, felly nid oes rheswm pam na all hi barchu anghenion unigryw Cymru a sicrhau cytundeb tebyg i ni.

"Dyna un o’r pethau cyntaf y byddaf yn gwthio amdanynt pan fydd y pwyllgor yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

“Rwy’n falch y bydd gan Gymru lais o’r diwedd, a gwrthwynebiad effeithiol i agenda Thatcheraidd adain-dde San Steffan, yn hytrach na gorfod dibynnu ar y Prif Weinidog Llafur tawel ac ufudd yng Nghaerdydd.”

Rhannu |