Mwy o Newyddion
Herio Safonau'r Gymraeg gerbron Tribiwnlys yn 'sarhaus a gwastraffus' yn ôl Cymdeithas yr Iaith
Mae mudiad iaith wedi beirniadu penderfyniad dau gyngor sir i apelio yn erbyn dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg fel rhai 'anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus'.
Mae dau gyngor – Sir Benfro a Chaerffili – wedi herio cyfanswm o 8 dyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Er 1993, mae pob corff cyhoeddus wedi bod dan ddyletswydd i weithio tuag at 'drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal'.
Yn 2011, newidiodd y gyfraith i sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol Cymru a sefydlu'r egwyddor y dylai cyrff beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Mae Cyngor Sir Benfro wedi apelio yn erbyn pedair dyletswydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd gydag unigolion os ydynt yn ymwneud â llesiant, er enghraifft wrth gynnal cyfarfod gyda phlentyn neu bobl hyn sydd ddim ond yn gallu siarad Cymraeg.
Mae Cyngor Sir Caerffili yn ceisio herio dyletswyddau iaith, gan gynnwys yr hawl i bobl gyfathrebu yn Gymraeg yn nerbynfeydd yr awdurdod lleol.
Yn 2012, roedd Cyngor Caerffili wedi ymrwymo y "bydd modd i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ymwneud â'r Cyngor yn Gymraeg heb fwy o oedi nag sydd rhaid wrtho" wrth i bobl fynd i dderbynfeydd y sir.
Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith: “Bydd yr hawliau hyn sy'n ymwneud â llesiant yn effeithio ar bobl fregus – plant, pobl hŷn a phobl mewn sefyllfa o wendid.
"Mae'n anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus i'r Cyngor fynd drwy broses er mwyn gwadu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod y Safonau ar gynghorau gyda buddiannau pobl mewn golwg, felly pam eu bod mor benderfynol o herio hyn eto?
"Dydyn ni ddim yn mynd i adael i rai o'n pobl fwyaf bregus gael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan fod ei angen fwyaf arnynt.
"Beth am i'r cynghorau roi amser ac ymdrech i gynyddu'i ddarpariaeth Gymraeg a hyfforddi staff a chefnogi staff i allu gweithio'n Gymraeg, yn lle gwastraffu arian ac amser ar gyngor cyfreithiol er mwyn ceisio gwadu hawliau sylfaenol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg?
"Cafodd pob corff cyhoeddus dros ugain mlynedd i weithio 'tuag at drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal', ond maen nhw nawr yn honni ei fod yn rhy anodd i wireddu eu haddewid.
"Wedi dau ddegawd o esgeuluso eu dyletswyddau cyfreithiol, mae'n gwbl amlwg bod eu heriau i'r hawliau cyfreithiol newydd yn gwbl afresymol."
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cymdeithas yr Iaith yn ystyried mynd ati i restru fel trydydd parti er mwyn gwrthwynebu'r apêl drwy'r Tribiwnlys.
Llun: Manon Elin