Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Hydref 2016

Galw am newid i’r Ddeddf wrth i fanc olaf ymadael â Blaenau Ffestiniog

Mae Cynghorydd Sir Blaenau Ffestiniog, Mandy Williams-Davies yn galw am newidiadau i'r gyfraith fel na fydd tref arall yng Nghymru yn cael ei gadael i ddioddef heb sefydliad ariannol fel y mae Blaenau Ffestiniog yn ei brofi ar hyn o bryd.

“Fel cymuned, rydym wedi cael ein hamddifadu a’n gadael i’r naill ochr, wedi i’r banc olaf gau yn y dref ym mis Medi,” eglura’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies sy'n cynrychioli trigolion Diffwys a Maenofferen ar Gyngor Gwynedd.

“Rydym yn byw mewn tref fyrlymus prysur lle mae angen i bobl leol, busnesau ac ymwelwyr â'r ardal gael mynediad i gronfeydd a gwneud trafodion ariannol.

"Mae'n profi'n fwy ac yn fwy anodd. Dwi’n teimlo ein bod ni wedi cael ein hesgeuluso.”

HSBC oedd y banc olaf i adael y dref ym mis Medi, ac mae’r cwmni wedi gwneud gwaith ymchwil gan ddarganfod bod canran ymwelwyr sy’n dod i’r dref yn ddigon uchel i warantu darparu gwasanaeth bancio twll yn y wal gan yr HSBC.

Ond mae angen trafod lleoliad addas mewn adeiladau cwmnïau preifat yn y dref.

"Yn y cyfamser, mae pobl Blaenau yn cael eu hamddifadu a’i anghofio tra bod prosesau a chynlluniau yn cael eu rhoi ar waith.

"Dwi hefyd yn awyddus i holi am ddatrysiad i’r broblem o fancio a chodi arian mân, mater arall sy'n peri pryder yn y dref.

"Ar hyn o bryd mae gennym dri gwasanaeth twll yn y wal yn y dref, wedi'u lleoli mewn adeiladau gwahanol gwmnïau manwerthu preifat.

"Yn ystod y dyddiau diwethaf, roedd yr unig wasanaeth twll yn y wal oedd ar gael i gwsmeriaid yn gynnar ar nos Sul, un oedd wedi ei leoli y tu allan i adeilad, wedi torri. Mae'n rhwystredig iawn ac yn annheg ar y gymuned yn Blaenau.

"Mae fy nhrafodaethau gyda'r banc yn tynnu sylw amlwg at yr angen am gynllun ymadael manwl ar gyfer y sefydliad ariannol olaf i adael tref.

"Credaf yn gryf mai newid cyfreithiol trwy ddeddf gwlad yw'r unig ffordd i sicrhau bod trefi eraill yng Nghymru ddim yn profi’r un problemau ag y mae trigolion Blaenau yn ei deimlo ar hyn o bryd.”

Mae’r Cynghorydd Williams-Davies a’i chydweithwyr Plaid Cymru, y Cynghorydd Annwen Daniels a‘r Aelod Seneddol Lis Saville-Roberts yn parhau i gydweithio ar ran trigolion lleol.

Llun: Cynghorwyr Blaenau Mandy Williams-Davies ac Annwen Daniels

Rhannu |