Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Hydref 2016

Galw am bwerau economaidd i ryddhau gweithwyr Cymreig o'r trap cyflog-isel

Mae Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnes, yr Economi a Chyllid Adam Price heddiw wedi gwneud yr achos o blaid trosglwyddo pwerau economaidd o San Steffan i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i ffigyrau newydd ddangos fod Cymru'n parhau i fod yn gartref i economi cyflog-isel.

Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw gan yr ONS yn dangos fod gweithwyr Cymreig yn cael eu talu'n llai na gweithwyr yn unrhyw ran arall o'r DG.

Mae gweithwyr yng Nghymru'n ennill dim ond £492 yr wythnos o gymharu a chyfartaledd y DG sef £540.

Mae gweithwyr mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru yn ennill dros £100 yr wythnos yn llai na chyfartaledd y DG, gyda gweithwyr ym Mlaenau Gwent a Gwynedd ond yn ennill £409 a £434 yr wythnos yn eu tro.

Dywedodd Adam Price AC: "Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos gwir ddarlun economi cyflog-iself Cymru.

"Mae degawdau o gamreoli economaidd gan lywodraethau Ceidwadol a Llafur yn San Steffan wedi arwain at weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu bron i £50 yn llai yr wythnos na'r ffigwr cyfartalog ar gyfer y DG gyfan.

"Mae'r sefyllfa'n waeth oherwydd amharodrwydd llywodraethau San Steffan i gyflwyno cyflog byw ystyrlon a fyddai'n sicrhau codiad cyflog i chwarter miliwn o weithwyr Cymreig.

"Rhwng 2007 a 2011 pan oedd Gweinidog Plaid Cymru yn gyfrifol am yr Economi dan lywodraeth Cymru'n Un, gwelodd weithwyr Cymru'r twf mwyaf yn eu henillion wythnosol o unrhyw genedl yn y DG.

"Mae hi nawr yn hanfodol ein bod yn gweld pwerau economaidd ystyrlon yn cael eu trosglwyddo o San Steffan i Gymru er mwyn creu swyddi sgiliau uchel sy'n talu'n dda, ac i gau'r bwlch cyflog gyda gweddill y DG.

"Dim ond bryd hynny y gallwn ryddhau gweithwyr o'r trap cyflog-isel sydd mor aml yn arwain at ddyled neu gwymp mewn safonau byw."
 

Rhannu |