Mwy o Newyddion
Dwyn eiddo gwledydd eraill
MAE economi gwledydd Prydain wedi ei seilio ar “ddwyn eiddo gwledydd eraill”, a dyna sydd i gyfrif pam fod cymaint o dir Cymru un ai dan berchnogaeth neu dan reolaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r lluoedd arfog heddiw.
Dyna oedd prif neges y Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood, wrth iddi draddodi Darlith Goffa Lewis Valentine yn Undeb y Bedyddwyr yn Abertawe ddydd Llun yr wythnos hon.
Yn ei darlith, Cymru’r Dyfodol: ‘Cylch yn Treiglo’ neu ‘Crud yn Siglo?’ bu Mererid Hopwood yn sôn am hanes yr economi fyd-eang sydd bellach yn holl ddibynnol ar brynu a gwerthu olew, a sut y daeth hynny i effeithio’n uniongyrchol ar Gymru.
“Sut ddaeth y diwydiant olew i fod yn un mor fawr, tybed?” meddai yn y ddarlith. “Mae’r hanes yn hynafol. Ers miloedd o flynyddoedd, mae olew wedi cael ei ddefnyddio i wella anhwylderau’r croen, a menywod wedi ei fabwysiadu er mwyn harddu eu hunain.
“Ers dyddiau Nebiwchodonosor, mae’r fflamau tragwyddol wedi bod yn llosgi ger Kirkuk yn Iràc – a than yn gymharol ddiweddar, mae’n debyg, byddai menywod diffrwyth yn mynd i dreulio’r nos yno, ac ar y bore yn taflu llond dwrn o dywod i’r ddaear. Pe byddai fflam yn codi lle’r roedd y tywod wedi disgyn, roedden nhw’n gwybod bod y diafol a oedd yn eu croth wedi mynd, ac yn credu’n siŵr y bydden nhw’n beichiogi.
“Hyd yn oed heddiw, mae 80% o olew’r byd yn tarddu o’r ardal hon – y Dwyrain Canol – a 62.5% yn dod o’r pum gwlad Arabaidd: Sawdi Arabia, UAE, Iràc, Qatar a Kuwait. Ond mae tipyn o wahaniaeth rhwng defnyddio dafnau o olew i wella clwyf unigolion, â’r sugno brwd sydd arno’r dyddiau hyn er mwyn gyrru holl beiriant yr economi ryngwladol. Mae hanes y diwydiant hwnnw dipyn yn iau,” meddai Mererid Hopwood.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA