Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Hydref 2016

Mudiad Meithrin yn cyhoeddi cadeirydd newydd

Rhodri Llwyd Morgan yw Cadeirydd newydd Mudiad Meithrin.

Yn olynu Rhiannon Lloyd am dymor o dair blynedd, trosglwyddwyd yr awenau i Rhodri Llwyd Morgan yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Hydref 21 cyn seremoni wobrau cyntaf y Mudiad.

Wrth edrych ymlaen at y gwaith fel Cadeirydd, meddai Rhodri: “Wrth i ni ddathlu 45 mlynedd ers sefydlu, mae’n fraint eithriadol cael bod yn Gadeirydd ar fudiad sydd mor agos at galon cynifer o bobl Cymru.

"Rwy’n edmygu’n fawr y gwaith anhygoel a gyflawnir gan y staff proffesiynol a’r gwirfoddolwyr ymroddedig ar lawr gwlad ynghyd â’r staff canolog.

"Mae gwaith Mudiad Meithrin yn hynod o bwysig ac mae darpariaeth y Cylchoedd Meithrin a’r Cylchoedd Ti a Fi yn ein cymunedau yn allweddol i ddyfodol yr iaith.

"Gyda her cael miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a darparu tri deg awr o ofal plant rhad ac am ddim yr wythnos i blant 3 a 4 mlwydd oed, mae gwaith Mudiad Meithrin mor bwysig ag erioed."

Rhannu |