Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Hydref 2016

Prif Weinidog yn ennill dim i Gymru yn gyfnewid am gefnogi ehangu Heathrow yn ôl Adam Price

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi trydydd rhedfa yn Heathrow, er na chafodd unrhyw sicrwydd y bydd o les i Gymru, dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi, Adam Price.

Yn y cyfamser, llwyddodd Llywodraeth yr Alban i sicrhau rhestr hirfaith o fanteision yn gyfnewid am eu cefnogaeth. Dyma hwy:

  • Creu hyd at 16,000 o swyddi newydd ar draws yr Alban o’r capasiti newydd.
  • Bydd Heathrow yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i ymchwilio i Faes Awyr Glasgow Prestwick fel safle posib am ganolfan logisteg i gefnogi adeiladu’r trydydd rhedfa.
  • Gwerth £200m o wariant ar adeiladu yn yr Alban yn ystod y cyfnodau cynllunio ac adeiladu.
  • Cronfa ddatblygu llwybrau hedfan gwerth £10m i helpu i gynnal llwybrau hedfan domestig newydd.
  •  fis Ionawr 2017, gostyngiad o £10 y teithiwr mewn taliadau glanio a delir gan gwmnïau awyrennau sy’n rhedeg gwasanaethau o Heathrow i’r Alban. Bydd hyn yn fanteisiol i wasanaethau presennol o Aberdeen, Caeredin, Glasgow ac Inverness ac yn gymhelliant i gyflwyno gwasanaethau newydd.
  • Ymgyrch farchnata tymor-hir, arwyddocaol yn Heathrow i hyrwyddo popeth sydd gan yr Alban i’w gynnig.
  • Digwyddiad caffael yn Glasgow i wella cyfleoedd i gwmnïau o’r Alban ennill busnes gyda chyflenwyr Haen 1 Heathrow.

Dywedodd Adam Price: “Mae Plaid Cymru yn wastad wedi cefnogi canolfan yn Heathrow fel un o byrth Cymru i’r byd, ond mae ein cefnogaeth yn ddibynnol ar i ni sicrhau’r fargen orau oll i Gymru.

"Rhoddodd Llywodraeth yr Alban gefnogaeth i’r ehangu yn dilyn nifer o ymrwymiadau pendant gan Heathrow.

"Yn eu mysg mae ymrwymiad i greu swyddi, buddsoddi mewn seilwaith a buddsoddi mewn llwybrau hedfan newydd o Heathrow i’r Alban.

“Yn anffodus, mae’r Prif Weinidog wedi rhoi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r cynnig yn gyfnewid am ddim.

“Os ydym am weld unrhyw les i economi Cymru o ddatblygiad Heathrow yna mae angen i ni sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gyda Chymru yn cael eu gwella’n sylweddol.

"Rhaid i ni ofalu hefyd y gall busnesau Cymru elwa trwy wario ar adeiladu a thrwy gontractau caffael, a dylem weld ymgyrch wedi ei thargedu i farchnata Cymru fel cyrchfan fuddsoddi a thwristiaeth.

“Y lleiaf un y mae gan Gymru hawl iddo yw cyfran ddilynol o’r arian cyhoeddus a fuddsoddir yn y maes awyr.

“Buasai Prif Weinidog mwy deheuig wedi ceisio sicrwydd o’r fath yn gyfnewid am ei gefnogaeth.

"Mae’n edrych fel petai Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle euraid i sicrhau gwir enillion i Gymru.”

Rhannu |