Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Hydref 2016

Prif Weinidog yn croesawu penderfyniad Heathrow

Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bore ma i ehangu maes awyr Heathrow a chreu trydedd llain lanio yno.

Dywedodd Carwyn Jones: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hirddisgwyliedig hwn.

"Yn ogystal â bod o fantais i deithwyr o Gymru, bydd yn dod ag ymwelwyr yma, yn helpu ein hallforwyr i gyrraedd marchnadoedd newydd ac yn creu swyddi newydd.

“Mae’n hanfodol bod pobl Cymru yn cael eu siâr o fanteision y prosiect seilwaith cenedlaethol mawr hwn.

"Rwy’n disgwyl y bydd y mannau glanio yn y maes awyr estynedig yn cael eu rhannu’n deg, ac rwy’n pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni’r gwaith ar gyswllt rheilffordd Western Rail i Heathrow erbyn 2024.

"Bydd y cyswllt newydd hwn, ynghyd â thrydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe a moderneiddio prif linell Gogledd Cymru a gorsaf Ganolog Caerdydd yn sicrhau bod pobl ac economi Cymru yn cael budd llawn o’r maes awyr estynedig yn Heathrow.

“Byddwn yn gweithio hefyd i sicrhau bod Cymru’n cael y symiau canlyniadol y mae ganddi hawl iddynt o dan fformiwla Barnett.

“Er ein bod yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw, rydym yn dal i bwyso am ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.”

 

Rhannu |