Mwy o Newyddion
Cam pwysig ymlaen i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus gwbl ddwyieithog
Bydd disgwyl i gynghorau Cymru gynnal awdit o siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu er mwyn asesu sut mae darparu gwasanaethau dwyieithog yn well, wedi i Lywodraeth Cymru gytuno i osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth.
Wythnos diwethaf fe gytunodd Llywodraeth Cymru i welliant gan Blaid Cymru oedd yn galw arno i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.
Dywedodd Sian Gwenllian, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar Lywodraeth Leol a’r Iaith Gymraeg: “Rydym yn ymwybodol fod cynnydd Llywodraeth Cymru ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg wedi bod yn araf iawn.
"Er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn ogystal â nifer y siaradwyr, mae’n ofynnol i weithredu nifer o elfennau gwahanol, ac mi fydd addysg yn elfen greiddiol, os ydy’r Llywodraeth am gyflawni ei tharged o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu ers amser, felly mae’n dda ei bod wedi cefnogi gwelliant Plaid Cymru sydd yn erfyn ar y Llywodraeth i ymrwymo i gryfhau ei hymdrechion.
“O ganlyniad i waith Plaid Cymru, fe fydd angen i Lywodraeth Cymru weithio i wella darpariaeth awdurdodau lleol o wasanaethau dwyieithog.
"Fe fydd gofyn i awdurdodau lleol gynnal awdit er mwyn gweld beth ydy’r bwlch sgiliau ieithyddol, yn arbennig mewn swyddi rheng-flaen er mwyn cynllunio gweithlu pwrpasol.
"Os ydy hawliau siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu sefydlu drwy’r safonau am wreiddio, mae’n rhaid cynllunio gweithlu fydd yn gallu darparu’r gwasanaethau hynny yn gyflawn.”