Mwy o Newyddion
Cyhoeddi cyflwynwyr Sioe Frecwast BBC Radio Cymru Mwy
Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi cyflwynwyr newydd Sioe Frecwast yr orsaf radio dros dro, Radio Cymru Mwy o wythnos nesaf ymlaen.
Drwy gydol mis Tachwedd, bydd lleisiau newydd a chyfarwydd yn deffro’r tonfeddi dros frecwast am gyfnod o wythnos yr un.
Rhys Gwynfor, y canwr sy’n enwog am ei daith i Gorwen efo Alys, fydd wrth y llyw o’r Hydref 31 cyn trosglwyddo’r awenau i Carl ac Alun.
Wedyn bydd Dylan Ebenzer, Huw Stephens a Lisa Angharad yn gyfrifol am y gerddoriaeth a’r sgwrs weddill y mis.
Ifan Evans fydd Sion Corn Radio Cymru Mwy, wrth iddo gyflwyno’r Sioe Frecwast o ddechrau mis Rhagfyr tan y Nadolig.
Ers lansio’r orsaf dros dro ar Fedi 19, Caryl Parry Jones sydd wedi bod yn cyflwyno bob bore Llun i ddydd Iau, gyda Carl ac Alun neu Lisa Angharad yn deffro gwrandawyr Radio Cymru Mwy ar fore Gwener.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Wrth i ni agosau at hanner ffordd drwy gyfnod yr arbrawf, mae’n braf cael dweud fod pethau’n mynd yn dda o ran yr ochr olygyddol a thechnolegol.
"Mae’n diolch ni’n fawr i Caryl am osod sylfaen mor gadarn i’r Sioe Frecwast, ac er bo’r fformat yn newid ym mis Tachwedd, gyda chyflwynwyr gwahanol bob wythnos, mae’r addewid o fwy o gerddoriaeth a mwy o sgwrsio yn parhau.”
Dros gyfnod o bymtheg wythnos mae pwyslais Radio Cymru Mwy ar gerddoriaeth a hwyl wrth i’r orsaf dros dro ddarlledu yn ystod boreau’r wythnos waith.
Daw’r peilot i ben ar 2 o Ionawr 2017, ddeugain mlynedd union i noswyl lansio BBC Radio Cymru ar yr 3 Ionawr 1977.
Mae BBC Radio Cymru yn parhau i gynnig dewis o raglenni boreol, gyda’r rhaglen newyddion ddyddiol, Post Cyntaf am 7am a Rhaglen Aled Hughes rhwng 8.30am a 10am.
Lluniau: Dylan Ebenezer a Huw Stephens