Mwy o Newyddion
Datganiadau 90 eiliad i fywiogi trafodion y Cynulliad
BYDD Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael cyfle i godi materion amserol mewn slotiau 90 eiliad newydd yn y Cyfarfod Llawn.
Mae’r fenter hon, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, y Llywydd, ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Busnes, yn golygu y bydd cyfnod o bum munud yn cael ei neilltuo bob dydd Mercher er mwyn i o leiaf dri Aelod wneud datganiad.
Y Cynulliad fydd y ddeddfwrfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r drefn hon, sydd eisoes yn cael ei chynnig mewn seneddau eraill mewn gwledydd fel Awstralia a Chanada.
Caiff unrhyw Aelod wneud datganiad 90 eiliad ar unrhyw bwnc sy’n bwysig iddynt, a gellid defnyddio’r amser, er enghraifft, ar gyfer:
- trafod materion sy’n peri pryder i’w hetholwyr
- tynnu sylw at faterion lleol;
- nodi dathliadau neu ddyddiadau pwysig; neu
- dalu teyrngedau.
Os bydd nifer fawr o Aelodau’n gwneud cais i siarad ar yr un diwrnod, bydd y Llywydd yn defnyddio ei disgresiwn i ddewis o leiaf dri datganiad ar sail y wybodaeth a ddarparwyd.
Dywedodd y Llywydd: “Un o fy mhrif amcanion ers cael fy ethol yn Llywydd yw bywiogi trafodion y Cyfarfod Llawn drwy neilltuo amser ar gyfer mathau newydd o fusnes.
“Rwyf eisoes wedi sicrhau cytundeb y Pwyllgor Busnes i roi cyfle i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau yn gynnar yn y broses o gynnal ymchwiliadau pwyllgor er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynyddu cyfleoedd ymgysylltu.
“Mae Datganiadau Aelodau yn cael eu defnyddio’n eang yn seneddau eraill y Gymanwlad, yn bennaf i roi cyfle i Aelodau wneud datganiadau byr, heb rybudd, ar bwnc amserol neu fater sydd o ddiddordeb i’w hetholwyr neu i’r cyhoedd yn gyffredinol.
“Mae’r Cynulliad yn sefydliad democrataidd modern a dylem bob amser fod yn chwilio am gyfleoedd i wneud ein gwaith yn fwy perthnasol i bobl Cymru er mwyn eu cynnwys yn y gwaith hwn.”
Bydd y datganiadau personol 90 eiliad cyntaf yn cael eu gwneud ar ôl toriad yr hanner tymor ar 2 Tachwedd, a bydd y drefn newydd hon yn cael ei hadolygu gan y Pwyllgor Busnes yn y flwyddyn newydd.