Mwy o Newyddion
Biliwn i Gymru: Plaid Cymru yn mynnu ei chyfran o arian Heathrow
Dylai Cymru gael rhan o’r buddsoddiad cyhoeddus yn Heathrow, yn ôl AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards.
Fore heddiw fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn cefnogi ehangu maes awyr Heathrow.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw ar i Gymru gael “ei chyfran deg” o fuddsoddiad cyhoeddus mewn ehangu meysydd awyr yn ne-ddwyrain Lloegr.
Dan fformiwla Barnett, sydd yn pennu lefel y cyllid i holl genhedloedd datganoledig y DG, mae Cymru yn derbyn rhan o wariant ar faterion Lloegr-yn-unig, ar sail eu poblogaeth.
Mae Transport for London wedi amcangyfrif y bydd cysylltu Maes Awyr Heathrow, pan fydd wedi ei ehangu, â chanol Llundain yn costio hyd at £20 biliwn.
Petai Cymru yn derbyn ei chyfran o ran poblogaeth, byddai’n rhoi hwb o £1 biliwn i gyllid cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Jonathan Edwards: “Os yw San Steffan yn barod i wario £20 biliwn o arian y trethdalwyr yng nghornel gyfoethocaf y Wladwriaeth Brydeinig, yna fe ddylent fod yn barod i roi i Gymru ei chyfran deg o’r gwariant hwnnw.
"Mae pobl Cymru yn talu eu trethi hefyd; nid dim ond Llundain sy’n gwneud.
“Dwyf i ddim yn frwd o gwbl am y modd mae’r gwledydd datganoledig yn cael eu cyllido, ac fe fuasai’n well gen i o lawer weld diwygio fformiwla Barnett sydd wedi hen golli hygrededd, ond cyhyd â’i bod yno, y lleiaf y gall San Steffan wneud yw rhoi i Gymru yr arian sy’n ddyledus i ni.
“Mae unrhyw fuddsoddiadau cyhoeddus ar brosiectau Lloegr-yn-unig, megis seilwaith trafnidiaeth Llundain, i fod i danio trosglwyddiad cyllid i Gymru, ar sail ein poblogaeth.
"Os bydd ehangu Heathrow yn golygu £20 biliwn o fuddsoddiad cyhoeddus ar uwchraddio rhwydwaith rheilffyrdd Llundain, yn ôl amcangyfrif TfL, yna mae gan Gymru hawl i £1 biliwn.
“Rwyf wedi bod yn San Steffan yn ddigon hir i weld sut mae’r Trysorlys yn ceisio amddifadu Cymru o arian sydd yn wir yn ddyledus i ni.
"Adeg adeiladu’r Parc Olympaidd yn Llundain ac wrth godi rheilffordd gwerth £80 biliwn trwy ganol Lloegr, ceisiodd San Steffan ddweud nad buddsoddi yn Lloegr yr oeddent, ond yn hytrach buddsoddi yn y DG.
"Mae dadlau fel hyn yn tanseilio holl bwrpas fformiwla Barnett.
“Gallai £1 biliwn drawsnewid economi Cymru.
"Gellem drydaneiddio ein rheilffyrdd, adeiladu systemau metro ac ail-agor rheilffyrdd a gaewyd er mwyn cysylltu ein cenedl.
"Gallem godi ysbytai, ysgolion a ffyrdd newydd.
“Byddai’n hollol warthus petai San Steffan yn ceisio dadlau eto fyth fod buddsoddi yn rheilffyrdd Lloegr rywsut yn fuddsoddiad i Gymru, ac yn amddifadu’r wlad o’r buddsoddiad hwn y mae cymaint o’i angen.”