Mwy o Newyddion
Agwedd sarhaus at bobl mewn galar
MAE ymgyrchydd iaith o Wynedd wedi codi ei galon ar ôl derbyn cadarnhad gan Brif Weinidog Cymru ei fod am weld ffurflenni Cymraeg neu ddwyieithog ar gael i bobl mewn galar.
Roedd Dafydd Guto Ifan wedi dechrau ymgyrch lythyru ar ôl sylweddoli mai yn Saesneg yn unig y mae ffurflenni amlosgi’r meirw ar gael ar hyn o bryd.
Yn ei lythyrau at y wasg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, arweinwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ynghyd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain, fe fu’r cyn-athro, llyfrgellydd a llenor o Lanrug yn pwysleisio mor bwysig ydi sicrhau fod pobl mewn galar yn gallu gwneud cais i amlosgi corff yn eu hiaith eu hunain.
Yn gynharach eleni, wedi marwolaeth ei dad ar Fawrth 14, yn 95 mlwydd oed, fe fu’n rhaid i Dafydd Guto Ifan lenwi ffurflen uniaith Saesneg er mwyn parchu dymuniad ei ddiweddar dad i gael ei amlosgi yn hytrach na’i gladdu.
“Yn hyn o beth, mi dybia’ i fod yr Awdurdod yn Lloegr yn dangos agwedd hynod sarhaus, a’u bod yn torri’r Ddeddf Iaith yn rhacs gyrbibion,” meddai yn ei lythyrau cyntaf ym mis Ebrill eleni.
Ond ddydd Llun yr wythnos hon, daeth llythyr gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn addo y bydd y mater yn parhau i dderbyn sylw.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA