Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Hydref 2016

Cynllun newydd Cyngor Sir Gâr i gasglu gwastraff gardd yn cael ei gymeradwyo

MAE cynllun newydd i gasglu gwastraff gardd wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr.

Bydd yn disodli’r cynllun presennol i gasglu bagiau gwastraff gardd, a fydd yn dod i ben ar ddiwedd mis Hydref.

Dan y cynllun newydd, bydd trigolion yn cael bin 240 litr ar olwynion a bydd gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng mis Mawrth/Ebrill a mis Hydref. Gall deiliaid tai ofyn am fin llai sy’n dal 140 litr os ydynt yn dymuno.

Bydd yn costio £48 y flwyddyn a gall trigolion ddewis talu trwy ddebyd uniongyrchol gyda thaliadau’n cael eu gwasgaru dros chwe mis (o fis Ebrill i fis Medi); neu os byddant yn dewis talu’n llawn byddant yn cael disgownt o 15 y cant a fydd yn gostwng y gost i £40.80.

Mae’r cyngor yn derbyn fflyd newydd o gerbydau gwastraff a fydd yn dod yn weithredol o 31 Hydref ac ni fyddant yn gallu casglu gwastraff gardd. Ar hyn o bryd, mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu gyda’r gwastraff bwyd yng nghefn y cerbydau; fodd bynnag, bydd y cerbydau newydd yn cynnwys pod ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd yn unig.

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gofnodi ac adrodd ar yr holl wastraff y maent yn ei gasglu ac mae’n well gan Lywodraeth Cymru bod gwastraff gardd yn cael ei gasglu ar wahân a bod awdurdodau lleol yn adrodd arno ar wahân.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan hefyd mai treulio anaerobig (nid compostio) yw’r dull o drin gwastraff bwyd a ffefrir ganddi, ac ni ellir trin gwastraff gardd gan ddefnyddio’r dull hwn.

Gall trigolion barhau i ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu gwastraff cartref i waredu eu gwastraff gardd neu mae ganddynt y dewis i gompostio gartref. Mae’r cyngor yn gwerthu biniau compost am bris cymorthdaledig o £12, gan gynnwys pris danfon.

Wrth siarad yn y cyfarfod, meddai’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, y Cyng. Hazel Evans: “Y rheswm pam fod y newidiadau’n angenrheidiol yw y bydd gennym fflyd newydd ar ddiwedd y mis yma.

“Ni fydd yn bosibl casglu gwastraff gardd gwyrdd gyda bwyd; felly rydym yn dechrau gwasanaeth casglu tymhorol.

“Bydd yn costio £48 y flwyddyn, a fydd yn daladwy ar ffurf rhandaliadau neu gyda disgownt o 15 y cant os caiff ei dalu’n llawn.

“Mae angen gofyn am y gwasanaeth hwn. Os nad oes digon o wastraff gwyrdd gan aelwydydd gellir ei rannu gyda chymdogion, ac mae’r biniau ar gael mewn dau faint gwahanol hefyd.

“Gellir gwaredu gwastraff yn ein safleoedd gwastraff trefol hefyd neu gall pobl brynu biniau compost gennym am £12, sy’n cynnwys pris danfon.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cerbydau newydd a’r newidiadau i’r casgliadau, ewch at y dudalen http://newyddion.sirgar.gov.uk

I archebu bin compost ewch at y wefan lleoli.http://sirgar.llyw.cymru

Rhannu |