Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Hydref 2016

Cyhoeddi enillwyr Ffotomarathon Aberystwyth

Cynhaliwyd chweched ffotomarathon Aberystwyth fel rhan o ŵyl FfotoAber ddydd Sadwrn.

Y nod oedd tynnu chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema gwahanol.

Cefnogwyd y ffotomarathon gan Glwb Busnes Aberystwyth, Cambrian Printers a Chyngor Tref Aberystwyth a daeth yn agos at 70 o ffotograffwyr o bob safon ac o bob cwr at ei gilydd i ganolfan Morlan i dderbyn eu themau.

Y chwe thema eleni oedd: Yr ochr arall, 4, Amrwd, Patrwm, Casgliad a Glas.

Enillydd y brif wobr am ei gyfres o chwe llun gyda chamera a lensys cyfnewidiol oedd Tony Hicklin a dderbyniodd daleb i siop Ultracomida.

Yr enillydd gyda chamera a  lensys parhaol oedd Llio James a dderbyniodd wobr o set o lyfrau ffotograffig arbennig gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yr enillydd ifanc (16 oed ac iau) oedd Kiera Ellis ac enillodd Charlotte Rigg am ei chyfres o chwe llun wedi eu tynnu gan ffôn symudol.

Eu gwobrau hwy oedd taleb ffotograffiaeth a roddwyd gan gwmni 52-4 a thaleb yn rhoddedig gan gwmni Four Cymru.

Roedd gwobrau hefyd am y lluniau gorau yn y themau unigol ac enillwyd rheiny gan Samantha Rigg (Yr ochr arall), Tony Hicklin (4), Tegwen Morris (Amrwd), Siwan Fflur (Patrwm), Wendy Philips (Casgliad) a Kaloyan Cholakov (Glas).

Penderfynodd y beirniad hefyd roi gwobr arbennig i Lynne Blanchfield am ei set o chwe llun oedden nhw'n teimlo oedd yn cynrychioli Aberystwyth a derbyniodd hithau daleb ar gyfer Siop y Pethe - addas iawn gan ei bod yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

Yn ôl Deian Creunant, un o drefnwyr FfotoAber, roedd y diwrnod unwaith eto yn llwyddiannus tu hwnt.

Meddai: "Mae'r cystadleuwyr yn creu naws arbennig iawn yn ystod y dydd ac maent yn gorfod bod yn hynod greadigol wrth benderfynu pa ddelweddau i'w defnyddio ar gyfer pa themau - roedd yn fanteieiol eleni fod y tywydd yn fendigedig hefyd.

"Yr hyn sydd yn braf bellach yw fod lluniau pawb yn cael eu harddangos a byddwn yn annog unrhywun i fynd i'w gweld yn Morlan - mae nhw yno tan 11 Tachwedd."

Y beirniaid eleni oedd Jonny Morris o'r Telegraph Group oedd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn, Betsan Evans, ffotograffydd proffesiynol ac Aled Rees, aelod o glwb busnes Aberystwyth.

Gellir gweld yr arddangsofa yng nghanolfan Morlan tan 11 Tachwedd ac os am fwy o wybodaeth ewch i www.ffotoaber.cymru

Cofiwch hefyd am arddangosfa cystadleuaeth ysgolion FfotoAber yng nghanolfan Arad Goch – galwch mewn i’w gweld.

Llun: Llun buddugol Tony Hicklin

Llun 2: Enillwyr Ffotomarathon (gan Keith Morris)

Rhannu |