Mwy o Newyddion
Galw ar ddarparwyr i gadw peiriannau ATM Blaenau Ffestiniog yn llawn
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi annog darparwyr peiriannau arian ym Mlaenau Ffestiniog i sicrhau cyflenwad digonol o arian ym mheiriannau arian parod y dref, yn dilyn nifer o adroddiadau bod pobl wedi methu tynnu arian allan yn yr wythnosau diwethaf.
Mae’r Aelod Seneddol, a oedd yn feirniadol o benderfyniad diweddar HSBC i gau eu cangen ym Mlaenau Ffestiniog, hefyd wedi galw ar y banc i osod peiriant arian ychwanegol yn y dref, i ymdopi â'r galw cynyddol gan y gymuned leol a’r farchnad dwristiaeth.
Meddai: “Mae hyn yn peri pryder, nid yn unig i drigolion Blaenau sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwn i fyw eu bywydau bob dydd, ond hefyd ar gyfer y gwasanaeth twristiaeth lleol a’r diwydiant awyr agored, o ystyried y nifer cynyddol o ymwelwyr sy’n cael eu tynnu i Flaenau gan ddarpariaethau antur awyr agored.
"Mae'n rhaid cael gwasanaethau digonol i ddelio â’r galw gan bobl lleol ac ymwelwyr.
“O ystyried fod HSBC wedi cymryd y penderfyniad i gau’r banc olaf ym Mlaenau Ffestiniog, a hynny yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol chwyrn, mae’n ddyletswydd arnynt i wneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn iawn am eu gweithredoedd; sy’n cynnwys gosod peiriant ATM ychwanegol i wasanaethu pobl Blaenau, fel y maent wedi addo i wneud.
“Rwyf eisioes wedi codi’r mater yma gyda rheolwyr HSBC gan ofyn iddynt ymateb yn gadarnhaol i’r pryderon lleol a godwyd yn dilyn cau banc olaf y dref.
"Mae ffigyrau gan HSBC eu hunain yn datgelu fod un o’r peiriannau arian presenol yn siop McColl’s yn gweithredu ar gapasiti o 97%, sy’n profi fod galw uchel am y gwasanaeth.”
“Mae’r banc eisoes wedi lleoli peiriannau tynnu arian yn y Bermo, gyda cynlluniau ar y gweill i osod un yn Nhywyn hefyd. Mae’r ddwy gymuned yma hefyd wedi dioddef yn sgil canghenau yn cau.
“Mae trigolion Blaenau Ffestiniog wedi gorfod dygymod â banciau yn cau ers sawl blwyddyn bellach.
"Y lleiaf maent yn ei haeddu yw’r gallu i godi arian pan fo’r angen yn galw. Siawns nad yw hynny yn ormod i ofyn?”