Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Hydref 2016

Cymorth i'r diwydiant dur mewn perygl o golli momentwm

Mae'r ymdrechion i ddatrys argyfwng y diwydiant dur yng Nghymru mewn perygl o golli momentwm, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Theresa May AS, yn galw am weithredu ar frys i sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy i gynhyrchu dur yng Nghymru a'r DU yn ehangach.

Rhoddwyd miloedd o swyddi mewn perygl pan Tata Steel gyhoeddodd ym mis Ebrill eleni ei fwriad i werthu ei weithrediadau yn y DU.

Mae Tata yn cyflogi bron 7,000 o weithwyr ledled Cymru, gan gynnwys mwy na 4,000 ar ei safle ym Mhort Talbot.

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref, clywodd y Pwyllgor gan berchnogion busnesau dur, yr undebau a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC.

Nodwyd materion ynghylch ardrethi busnes, prisiau ynni ac effaith Brexit.

"Pan gyhoeddodd Tata ei fod yn bwriadu gwerthu ei weithrediadau dur yn gynharach eleni, y farn helaeth oedd bod yn rhaid gwneud rhywbeth ddiogelu swyddi," meddai Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Aeth pawb ati i ddechrau cydweithio, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, i ystyried pa gymorth y gellid ei gynnig.

"Mae'r dystiolaeth a gafwyd yn ystod ein cyfarfod yn awgrymu bod perygl o golli'r momentwm hwn, a bod y diwydiant dur wedi colli ei le ar yr agenda ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

"Ond mae'r argyfwng hwn yn un gwirioneddol o hyd ac mae miloedd o bobl ledled Cymru yn pendroni ac yn poeni am yr hyn a fydd yn digwydd iddyn nhw a'u teuluoedd yn y dyfodol.

"Mae dur yn rhan strategol bwysig o sector gweithgynhyrchu y Deyrnas Unedig, a dyna pam fy mod i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am weithredu ar frys i sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy ar gyfer cynhyrchu yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach."

Rhannu |