Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Hydref 2016

Newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yng Ngwynedd

O fis Ionawr 2017 ymlaen, oherwydd y pwysau ariannol amlwg sydd ar bob gwasanaeth cyhoeddus, bydd tâl blynyddol am gwasglu gwastraff gardd yng Ngwynedd.

Dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, bydd holl gartrefi Gwynedd yn derbyn llythyr trwy’r post yn esbonio’r newidiadau.

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gartrefi nad ydynt yn defnyddio’r bin brown gwastraff gardd, ac ni fydd angen i’r trigolion nad oes arnynt eisiau’r gwasanaeth o 9 Ionawr 2017 wneud dim.

I’r aelwydydd hynny yng Ngwynedd sy’n defnyddio’r bin olwynion brown ar gyfer gwastraff gardd ac sy’n dymuno parhau i dderbyn y gwasanaeth bob pythefnos, bydd angen iddyn nhw dalu tâl blynyddol o £33 ar gyfer bin olwynion safonol (240 litr).

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Yn anffodus, fel y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus, mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod edrych ar bob gwasanaeth a phenderfynu a oes unrhyw rai y gallwn godi tâl amdanyn nhw, fel y gallwn ni gyfyngu effaith toriadau ar gwasanaethau cwbl hanfodol fel gofal ac ysgolion.

"Un o’r gwasanaethau yr ydan ni wedi penderfynu codi tâl amdanyn nhw ydi casglu gwastraff gardd.

“Dw i’n deall yn iawn y bydd y newid yn siomi llawer o bobl sydd wedi derbyn y gwasanaeth yma am ddim ers llawer blwyddyn, ond mewn gwirionedd mae amryw o gynghorau yng Nghymru sydd eisoes yn codi tâl am y gwasanaeth.

“Dylai unrhyw un yng Ngwynedd sydd â diddordeb mewn talu am y gwasanaeth yma a ddaw i rym ar 9 Ionawr 2017 ddilyn y camau syml yma i gofrestru ar gyfer y trefniadau newydd.”

Bydd cartrefi Gwynedd yn derbyn pecyn gwybodaeth am y newidiadau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf a fydd yn esbonio’n fanwl sut i gofrestru i dalu am y gwasanaeth newydd casglu gwastraff gardd:

  • Ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/gwastraffgardd lle gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Os nad ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein Cyngor Gwynedd o’r blaen, bydd angen ichi greu cyfrif a fydd yn cymryd ychydig eiliadau.
  • Dros y ffôn: Os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch gofrestru trwy ffonio 01766 771000 neu trwy ymweld ag un o dair swyddfa Siop Gwynedd yng Nghaernarfon, Dolgellau a Pwllheli.

Gall teuluoedd sy’n dymuno prynu’r gwasanaeth wneud hynny trwy wneud taliad ar-lein diogel gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Mae’r Cyngor yn defnyddio gwasanaeth allanol diogel i ymdrin â phob taliad – yn debyg iawn i siopa ar-lein.

I’r rheini nad ydyn nhw ar-lein, gellir prynu’r gwasanaeth trwy ffonio 01766 771000 neu trwy ymweld ag un o dair swyddfa Siop Gwynedd yng Nghaernarfon, Dolgellau a Pwllheli.

Unwaith y bydd trigolion wedi archebu a thalu am y gwasanaeth, fe fyddan nhw’n derbyn pecyn croesawu a fydd yn cynnwys sticeri i’w rhoi ar eu bin brown i ddangos i’r timau casglu eu bod wedi talu am y gwasanaeth.

O 9 Ionawr 2017, dim ond y biniau brown sy’n arddangos y sticer dilys y bydd timau casglu’r cyngor yn eu gwagio.

Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.gwynedd.gov.uk/gwastraffgardd

Rhannu |