Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Hydref 2016

Buddsoddi mewn arweinwyr y dyfodol

Mae Cered - Menter Iaith Ceredigion a Theatr Felinfach yn sefydlu Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn sir Ceredigion er mwyn darparu cwrs dwys i oedolion ifanc rhwng 18-25 er mwyn creu arweinyddion ifanc yng nghymunedau’r sir.

Yn dilyn cais llwyddiannus drwy Cynnal y Cardi am gymorth Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, bydd y cwrs yn cychwyn fis Tachwedd.

Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn cynnig cwrs arweinyddiaeth dwys gan roi’r cyfle i oedolion ifanc Cymraeg ei hiaith i feithrin sgiliau arweinyddiaeth o fewn y gymuned a’u cymdogaeth gyda’r bwriad o’u hysgogi i weithredu yn lleol er budd y gymuned, a thaclo heriau cymdogaethau’r dyfodol.

Bydd yr Academi yn gweithio ar ddwy wedd sef darparu cwrs dwys i’r myfyrwyr yn flynyddol ac yn darparu cyfleoedd dysgu achlysurol a fydd yn agored i unrhyw unigolion â diddordeb.

Dywedodd Lynsey Thomas, Rheolwr Cered: “Trwy ddilyn y cwrs bydd yr unigolion yn  datblygu eu dealltwriaeth o hanfodion datblygu cymunedol a sgiliau arweinyddiaeth gan ddeall cydraddoldeb a’r deinamig o rym mewn cymdeithas a hynny mewn cyd-destun dwyieithog cymunedau a chymdogaethau Ceredigion.

"At hynny, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i roi eu gwybodaeth, sgiliau ac agweddau newydd ar waith ar ffurf prosiect lleol, gan adrodd ar hynny fel rhan o’r cwrs.

“Nod y prosiect yw buddsoddi mewn unigolion i fod yn hyderus, i adnabod potensial eu hunain a’u cymuned ac ysgwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol.”

Ychwanegodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach a’r Campws: “Ein gwaith ni trwy’r Academi hon yw annog ac arddangos arweinyddiaeth mewn cymunedau.

"Mae’n hanfodol ar gyfer dyfodol ein cymdogaethau i sicrhau bod pobl ifanc yn perchnogi ac yn wynebu’r her, ond i sicrhau hyn mae’n ofynnol i ni adeiladu gallu a hyfforddi ein pobl ifanc i gynllunio a chyflwyno  mentrau cymunedol.”

Er bod dros 20 mlynedd ers y cwrs Arweinyddiaeth Gymunedol wreiddiol, mae ffrwyth y gwaith hwnnw’n parhau, gan fod y myfyrwyr gwreiddiol oll yn arweinyddion cymunedol yn eu hardaloedd erbyn hyn ac yn rhannu eu sgiliau gyda phobl ifanc nawr.

Fel rhywun a elwodd o gynllun tebyg ar ddechrau’r 1990au, dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad dros Geredigion: “Mae yna fudiadau gwych eisoes yn gwneud gwaith ardderchog i hyfforddi sgiliau amrywiol i bobol ifanc yng Ngheredigion, a dwi’n meddwl am y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd yn benodol.

"Ond ar adegau, mae’n ddefnyddiol i gynnig cyfleoedd arbennig i arweinwyr y mudiadau hynny ac i eraill nad sy’n ymwneud ag unrhyw fudiad penodol, i ymgymryd ag hyfforddiant penodol a dwys i ddatblygu eu sgiliau arwain.

“Mae’n hanfodol ar gyfer cymunedau hyfyw gwledig Cymraeg, fod pobol ifanc yn cynnig persbectif newydd a ffres i arweiniad y cymunedau hynny – mewn gwahanol feysydd a diddordebau – boed yn wleidyddol, gelfyddydol, economaidd.”

Mae’r cwrs yn cynnig sesiynau hyfforddi rhwng Tachwedd 2016 a Mehefin 2017. Bydd y cwrs yn cychwyn gyda chyfnod preswyl ar 26-27 Tachwedd 2016 yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ac yna 4-6 sesiwn dilynol ar draws yr 8 mis mewn lleoliadau ar draws y Sir.

Bydd hefyd mentor personol ar gyfer pob myfyriwr a chyfle i sefydlu menter neu brosiect fel rhan o’r cwrs.

Llun: Elin Jones

Rhannu |