Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Hydref 2016

Miliynau o bunnoedd yn y fantol mewn trafodaethau hollbwysig gyda'r Trysorlys

Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol mewn trafodaethau hollbwysig gyda'r Trysorlys, yn ôl adroddiad newydd gan ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid.

Heddiw mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd, a sefydlwyd yn ddiweddar, yn parhau i gynnal trafodaethau pwysig rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trysorlys ynglŷn â'r arian y bydd Cymru'n ei gael yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad, For Wales Don't (Always) See Scotland: Adjusting the Welsh Block Grant after Tax Devolution, yn amlinellu’r materion y bydd yn rhaid eu hystyried wrth drafod un o’r cwestiynau pwysicaf: sut y dylid addasu’r grant bloc y mae Cymru’n ei gael wedi datganoli trethi, a sut fydd yr addasiad yma yn newid dros amser.

Y penderfyniad hwn fydd yn sicrhau fod datganoli trethi yn cael ei weld yn deg i Gymru a gweddill Prydain.

Mae’r adroddiad yn dadlau fod y gwahaniaethau economaidd rhwng Cymru a’r Alban, a’u setliadau datganoli gwahanol, yn golygu na fydd y model y cytunwyd arno i’r Alban yn debygol o fod yn iawn i Gymru.

Dyma ganfyddiadau'r adroddiad:

  • Gan fod poblogaeth Cymru'n tyfu'n gymharol araf, bydd maint y sylfaen drethu gyffredinol yng Nghymru'n tyfu'n arafach nag yn Lloegr, waeth beth fo polisïau Llywodraeth Cymru.  Gallai methu ag ystyried y gyfradd twf arafach hon olygu y byddai cyllideb Cymru £110 miliwn yn llai ar ôl 10 mlynedd, o'i gymharu â'r arian y byddai'r wlad wedi ei gael drwy'r grant bloc llawn.
  • Mae sylfaen drethu Cymru'n wahanol iawn i weddill y DU, gyda llawer mwy o weithwyr ar incwm is. Golyga hyn y gallai ffactorau y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, megis polisi Llywodraeth y DU o gynyddu'r lwfans personol, effeithio'n fawr ar berfformiad cymharol trethi yng Nghymru.

Awgryma'r adroddiad ddwy ffordd bosibl o gyfrifo ar gyfer y gwahaniaethau yng Nghymru a sicrhau bod datganoli treth yn decach ac yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.

  • Y dewis cyntaf fyddai cyfrifo addasiadau grant bloc ar wahân ar gyfer pob band treth (h.y. cyfraddau treth sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Gallai hyn helpu i wneud yn iawn am gyfran sylweddol o'r gwahaniaethau yn nhwf refeniw y gellir eu priodoli i wahaniaethau mewn incwm pobl yng Nghymru a gweddill y DU.
  • Yr ail ddewis fyddai mynegeio Cymru yn ôl twf trethi mewn rhanbarthau o'r DU sy'n debycach i Gymru, megis gogledd Lloegr.

Wrth roi ei farn ynglŷn â'r adroddiad, dywedodd Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Gall addasu grant bloc Cymru ar ôl datganoli trethi ymddangos yn fater technegol, ond mater hynod bwysig yw hwn.

"Mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol i gyllideb Cymru.

"Y cwestiwn sy'n ganolog i'r mater yw sut y gellir cyflwyno trethi newydd Cymru mewn modd sy'n deg a chynaliadwy i lywodraethau Cymru a'r DU.

"Mae'n rhaid ystyried ffactorau megis patrwm twf poblogaeth Cymru, a'i sylfaen drethu wahanol iawn, er mwyn lliniaru effeithiau negyddol sylweddol ar gyllideb Cymru."

Ychwanegodd David Phillips, Economegydd Ymchwil Uwch yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid: "Er bod y model y cytunwyd arno ar gyfer yr Alban yn bwynt cychwyn defnyddiol wrth drafod sefyllfa Cymru, mae'n rhaid ystyried y gwahaniaethau sylweddol rhwng Cymru a'r Alban wrth benderfynu sut i addasu grant bloc Cymru, ac efallai na fydd model yr Alban yn addas i Gymru.

"Mae'n hanfodol bod unrhyw gytundeb gan Weinidogion dros y misoedd nesaf yn destun craffu, fod y cyfleoedd a’r risgiau yn cael eu deall, a bod yr effaith bosibl o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol yn cael ei hasesu'n drylwyr, oherwydd fod yna filiynau o bunnoedd yn y fantol." 

Rhannu |