Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Hydref 2016

Plaid Cymru - Rhaid i warchod aelodaeth o'r farchnad sengl fod ar frig agenda'r Prif Weinidog

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Allanol, Steffan Lewis AC,  wedi annog Prif Weinidog Cymru i flaenoriaethu aelodaeth Cymru o'r farchnad sengl yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogol heddiw. 

Dywedodd Steffan Lewis AC, gyda 200,000 o swyddi ynghlwm ag aelodaeth Cymru o'r farchnad sengl, ni all y Prif Weinidog adael Cymru ar y cyrion wrth i weinidogion y senedd-dai datganoledig gwrdd gyda Phrif Weinidog y DG yn Llundain i drafod ymadawiad Prydain o'r UE.

Croesawodd y newyddion y byddai'r Pwyllgor yn cwrdd yn amlach o hyn allan ac y bydd y bedair cenedl yn cynnal y cyfarfodydd yn eu tro, ond rhybuddiodd yn erbyn 'siop siarad' sy'n rhoi symboliaeth cyn sylwedd.

Dywedodd Steffan Lewis ddoe: "Wrth i Brif Weinidog Cymru baratoi i gwrdd â'r Prif Weinidog Theresa May yn Llundain yfory, mae'n hanfodol fod gwarchod yr economi Gymreig ar frig ei agenda.

"Gyda 200,000 o swyddi Cymreig ynghwlm a'n haelodaeth o'r farchnad sengl, rhaid i Carwyn Jones frwydro'n ddiflino i sicrhau cytundeb 'Brexit meddal' i Gymru.

"Os nad yw Prif Weinidog Cymru'n dangos arweinyddiaeth gref ac amlinellu gorchmynion clir - ffactorau sydd wedi bod ar goll yn ei ymateb i ganlyniad y refferendwm hyd yma - mae perygl y bydd Cymru'n cael ei gadael ar y cyrion yng nghyd-destun Brexit.

"Rwy'n croesawu cyhoeddiad Theresa May y bydd y Pwyllgor yn cwrdd yn amlach o hyn allan ac y bydd y bedair cenedl yn cynnal y cyfarfodydd yn eu tro.

"Serch hyn, mae perygl y gall cyfarfodydd o'r fath droi'n siop siarad arwynebol, yn hytrach na fforwm i sicrhau'r cytundeb gorau posib i Gymru.

"Rwy'n annog Prif Weinidog y DG i roi sylwedd cyn symboliaeth ac i barchu'r egwyddor y dylai Cymru gael ei thrin yn gydradd mewn unrhyw drafodaethau ar ddyfodol y genedl.

"Dyma gyfnod tyngedfennol i'n gwlad. Rhaid i'r Prif Weinidog brofi ei werth drwy adael y cyfarfod wedi sicrhau gwarantau cadarn fydd yn gwarchod swyddi a masnach Cymreig."
 

Rhannu |