Mwy o Newyddion
Brexit caled yn 'anwladgarol' yn ôl Plaid Cymru
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn cyhuddo Torïaid ‘Brexit caled’ o fod yn ‘anwladgarol’ yn ystod araith i gynhadledd flynyddol Plaid Cymru heddiw.
Bydd Hywel Williams AS yn cyhuddo’r rheiny sy’n eirioli dros eithrio’r Wladwriaeth Brydeinig o’r Farchnad Sengl o fod yn ‘anwladgarol’ am danseilio swyddi, twf economaidd a chyfleoedd pobl ifainc yn y dyfodol.
Bydd yr AS dros Arfon yn dadlau tra bydd rhaid i Gymru a’r Wladwriaeth Brydeinig bellach adael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai gadael yr undeb economaidd hefyd yn ‘drychinebus’ i’r economi ac yn peryglu gwarged masnach sylweddol Cymru.
Mae Cymru’n allforio mwy nag yw’n mewnforio, o’i gymharu â’r DU yn gyfan. Mae gan Gymru warged masnach nwyddau o dros £5 biliwn tra fod gan y DU ddiffyg o £120 biliwn.
Meddai: “Mae’r Torïaid byth a beunydd yn siarad am fod yn wladgarol ac am werthoedd Prydeinig ond does dim yn wladgarol am eu hymddygiad.
“Er gwaetha’u geiriau gwag, mae’n anwladgarol i’r Torïaid danseilio swyddi, twf economaidd a chyfleoedd pobl yr ynysoedd hyn yn y dyfodol trwy eu rhethreg senoffobaidd a’u hobsesiwn gyda ‘Brexit caled’.
“Nhw sy’n awgrymu ynysu’r Wladwriaeth Brydeinig, gan roi’r gorau i un o’r perthnasau economaidd mwyaf gwerthfawr ledled y byd, sef masnach rydd gyda chymaint o wledydd ar draws y byd. Bydd hyn yn drychineb i Gymru ac i’n gwarged masnach sylweddol.
"Ac maen nhw’n ein galw ni’n genedlaetholwyr ymrannol.
“Does dim gwahaniaeth sawl gwaith byddan nhw’n dweud wrth eu hunain mai ‘Brexit yw Brexit’ a’u bod yn mynd i ‘sicrhau fod y peth yn llwyddo’, realiti’r sefyllfa yw bod 60% o’n masnach ledled y byd yn rhydd o ganlyniad i’n aelodaeth o’r farchnad sengl.
“Nid mater ein perthynas masnachu gyda’r UE yn unig yw hyn. Mae’n ymwneud hefyd â’r dros 50 o gytundebau masnachu sydd gan yr UE â gwledydd eraill ledled y byd. Ryn ni’n taflu’r cyfan i ffwrdd yn enw ryw rethreg diystyr am fod yn wladgarol.
“Does dim yn wladgarol am daflu hyn i ffwrdd. Yn wir, byddai’n hynod anwladgarol i fod yn barod i wneud hynny er mwyn cadw eu seddi yn Nhŷ’r Cyffredin."