Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2016

Dathlu degawd o Sŵn: dogfen yn edrych ar yr wŷl fiwsig boblogaidd

Fe fydd Gŵyl Sŵn yn dathlu ei degfed pen-blwydd mewn sawl gig y penwythnos yma, Hydref 21-23, wrth i’r ŵyl gael ei chynnal yng nghlybiau a thafarndai Caerdydd.

Ers i gyflwynydd BBC Radio 1 Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron ddechrau’r wŷl yn 2007, mae Sŵn wedi bod yn llwyfan hollbwysig i fandiau mwyaf addawol Cymru, yn yr iaith Gymraeg a Saesneg.

Er mwyn ddathlu’r garreg filltir bwysig yma, fe fydd camerâu S4C yn mynd tu ôl i lenni’r wŷl ar gyfer cyfres ddogfen ddwy ran, sy’n cael eu dangos ddydd Sadwrn a dydd Sul, 10 a 11 Rhagfyr.

Eleni, bydd y trefnwyr yn gweithio gydag One Par Productions a Green Bay Media i fwrw golwg ar hanes yr wŷl, sef gwŷl gerddorol ganol dinas fwyaf Cymru.

Mae’r ddogfen yn rhan o brosiect aml-lwyfan cyffrous ac mae cynhyrchwyr y gyfres yn annog dilynwyr i gyfrannu i’r rhaglenni drwy anfon eu hoff glipiau ac atgofion Sŵn trwy ddefnyddio’r hashnod #Swn10.

Dywedodd Huw Stephens, “Mae Gwŷl Sŵn wedi bod yn ddathliad o gerddoriaeth yng Nghaerdydd ers degawd, gyda bandiau di-ri o Gymru a thu hwnt yn chwarae ar lwyfannau amrywiol.

"Mae cymaint o uchafbwyntiau wedi bod, ac mae'n gyfle gwych i dynnu sylw at Gaerdydd; dinas sydd â sin gerddoriaeth ddifyr dros ben. Mae cael cyfres ddogfen am Sŵn ar S4C yn anrhydedd fawr.”

Yn ogystal â pherfformiadau’r bandiau, bydd y ddwy ddogfen yn cynnwys atgofion, cyfweliadau a golwg tu ôl i’r llenni wrth i Huw a John wynebu’r sialens o drefnu gwŷl sydd wedi ennill Gwobr Gwŷl Fechan Orau gan gylchgrawn NME.

Cawn glywed gan yr artistiaid sydd wedi chwarae eu rhan yn llwyddiant Sŵn, o’r bandiau enwog i’r bandiau newydd sy’n ymddangos am y tro cyntaf eleni.

Dywedodd John Rostron, “Mae’n rhaid i hyd yn oed y bandiau mwyaf ddechrau yn rhywle, a Gwŷl Sŵn yw’r man cychwyn perffaith.

“Rydym yn rhoi llwyfan i gannoedd o fandiau i chwarae ar adeg yn eu gyrfaoedd lle maen nhw’n dechrau magu enw, yn fach o hyd ond yn wirioneddol dda; chi’n cael y cyfle i weld perfformwyr yn agos, er nad ydych eto efallai’n gyfarwydd â nhw. Mae’n ŵyl brysur, hwyliog a chyffrous, yn ŵyl bwysig sy’n anodd iawn i’w threfnu, ond dyna pam dw i wrth fy modd yn gwneud.

“Does dim syniad gen i sut gyrhaeddon ni’r ddegfed flwyddyn, ond mae’n wych ein bod ni wedi cyrraedd y fan yma, ac yn well fyth nawr bod S4C yn croniclo’r holl beth eleni drwy lens y camerâu!”

Yn y dyddiau yn arwain at yr wŷl eleni, bydd 10 clip ecsgliwsif yn cael eu rhyddhau gan gyfrifon Twitter ac Instagram @SwnisSound, gan gynnwys perfformiadau cyfrinachol, sawl montage a fideos gan drefnwyr a gwirfoddolwyr.

I rannu eich atgofion o’r wŷl eleni gyda chynhyrchwyr y ddogfen, defnyddiwch yr hashnod #Swn10 ar Twitter ac Instagram.

Rhannu |