Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2016

Trasiedi'n cael ei hosgoi wedi i dân gwyllt achosi tân mewn fflatiau

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn ymbil ar bobl i fod yn arbennig o wyliadwrus yn ystod cyfnod tân gwyllt wedi i drasiedi gael ei hosgoi mewn bloc o fflatiau ddydd Mercher.

Ymatebodd peiriannau tân o Orsaf Dân ac Achub Canol Caerdydd a Gorsaf Dân ac Achub Y Rhath i alwad argyfwng tân mewn bloc o fflatiau yn Heol Straughton, ger Dumballs Road yng Nghaerdydd am 19:47.

Mynegodd llygad dystion fod pobl yn eu harddegau yn yr ardal yn cynnau tân gwyllt ac y cyneuodd un ar falconi.

Ar gyrraedd, adnabyddodd criwiau tân fod tanau ar falconïau dwy fflat. Roedd un ar y 3ydd a'r 4ydd llawr yn gwbl ynghynn ac roedd angen presenoldeb platfform awyr. Roedd Heddlu De Cymru hefyd yn bresennol.

Diffoddodd Ymladdwyr Tân, yn defnyddio'r brif chwistrell a chwistrell 45mm, y tanau'n llwyddiannus a sicrhaodd y cafwyd cyfrif am bawb.

Wedi penderfynu fod y safle'n ddiogel i'w gyrchu, caniatawyd i'r preswylwyr ddychwelyd i'w heiddo.

Dywedodd Matt Jones, Pennaeth Uned Trosedd Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Rydym yn gweld nifer cynyddol o ddigwyddiadau lle camddefnyddir tân gwyllt ar draws De Cymru ac ymbiliwn ar bobl i fynychu arddangosfa a drefnwyd.

"Gall prynu tân gwyllt yn anghyfreithlon a'u camddefnyddio gael effaith ddistrywiol ar fywydau pobl, gan achosi trallod ac ofn.

"Yn ffodus, ni anafwyd unrhyw un, ac fel rhan o gadw'n ddiogel ac iach dros gyfnod Tân Gwyllt, hoffwn atgoffa pobl i sicrhau fod eu drysau a'u ffenestri ar gau ac y storiwyd unrhyw ddeunydd neu wastraff ffrwydrol ymhell o'r adeilad.”

Mae RSPCA Cymru'n ymbil ar berchnogion i gadw'u hanifeiliaid anwes i mewn gan fod y tymor Tân Gwyllt yn gallu bod yn ddirdynnol iddynt.

Mae'r Gwasanaeth hefyd yn gofyn i'w gymunedau fod yn wyliadwrus o unrhyw weithgarwch amheus neu wrthgymdeithasol dros gyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, ac os ydynt yn gweld unrhyw beth i gysylltu â'u Heddlu lleol drwy naill ai galw’r orsaf neu i gysylltu â 101 i'w hadrodd.

Bydd Ymgyrch Bang yn weladwy mewn nifer o ardaloedd ar draws De Cymru, a bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n cefnogi ein partneriaid â digwyddiadau gorfodi ac ymgysylltu dros y cyfnod.

Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Ymgyrch Bang, ymwelwch â http://www.decymru-tan.gov.uk

Rhannu |