Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2016

Popeth yn blodeuo yng ngardd Chris Needs

O’r adeg y cafodd lifft yng nghar ffrind i’r teulu, Richard Burton, pan yn 8 oed, roedd ffawd yn golygu y byddai Chris Needs yn datblygu gyrfa ym myd adloniant.

O chwarae allweddellau gyda Bonnie Tyler a chael tair rôl wahanol ar Pobol y Cwm i gyflwyno sioe arobryn ar y radio, gwnaeth Chris Needs y cyfan – a mwy.

Ag yntau newydd ddathlu 20 mlynedd o ddarlledu, mae gan ei raglen radio nosweithiol filoedd o wrandawyr ffyddlon sy’n tiwnio i mewn ac yn ymuno ag ef yn ei “ardd” wrth iddo rannu ei brofiadau amrywiol a hynod ddiddorol o fywyd.

Meddai: “Yr hyn a glywch ar y radio – fel ‘na rydw i yn fy mywyd go iawn. Mae’n debyg mai dyna pam mae pobl yn ei mwynhau – deunydd bywyd go iawn yn cael ei gyflwyno gyda rhywfaint o hiwmor Cwmafan.”

Wrth iddo dyfu i fyny yng Nghwm Tawe, mae Chris yn cydnabod yn barod fod ei ddiddordeb mewn gweithgarwch corfforol yn gyfyngedig ac nad oedd ei hoffter o sigaréts yn gwneud lles mawr i’w ysgyfaint, ond ar y cyfan roedd yn ddigon holliach ac nid oedd ganddo unrhyw bryderon o bwys.

Newidiodd hynny ar droad y mileniwm pan gafodd ddiagnosis ei fod yn diabetig.

“Rydw i’n cofio mynd am archwiliad arferol gyda fy meddyg ac yntau’n rhoi canlyniadau fy mhrawf gwaed imi - fel arfer dylai’r lefel siwgr fod o gwmpas 7, ac roedd fy un i yn 61!

"Yn naturiol roedd hynny’n dipyn o sioc i’r system ac roedd yn golygu newid fy ffordd o fyw, nid yn unig oherwydd newid mawr i’m diet, ond roeddwn hefyd yn gorfod cael pigiadau inswlin rheolaidd.”

Yn ffodus, ni chafodd gyrfa Chris ei heffeithio, ac aeth o nerth i nerth, ac ers hynny enillodd Wobr Radio Sony, cafodd Wobr Cyflawniad Oes ac yn 2005 derbyniodd MBE am wasanaethau i ddarlledu ac elusennau.

“Llwyddais i addasu i’r salwch. Mae’n wir fy mod wedi gorfod gwneud rhai newidiadau, ond yr un person oeddwn i o hyd.

"Arweiniodd yn anffodus at rai cymhlethdodau meddygol eraill fel angina, er fy mod yn beio fy rhieni am basio hwnnw ‘mlaen imi!”

Sylwodd Chris er hynny fod ei system imiwnedd yn cael ei heffeithio ac y gallai unrhyw beswch neu annwyd ddatblygu’n gyflyrau llawer mwy difrifol.

Dyna pam ei fod yn sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu trwy gael ei frechiad ffliw bob blwyddyn yn yr hydref cyn i ffliw ddechrau cylchredeg.

“Os ydw i’n onest roeddwn braidd yn amheus am gael y pigiad rai blynyddoedd yn ôl gan mod i’n meddwl y gallai roi ffliw imi – ond cafodd y myth hwnnw ei chwalu’n gyflym iawn ar ôl sgwrs gyda fy meddyg. 

"Y cyfan alla i ddweud erbyn hyn yw mod i’n cael y pigiad bob blwyddyn ac na chefais erioed y ffliw na theimlo’n dost ar ôl ei gael – ac mae hynny’n ddigon da imi.” 

Rhannu |