Mwy o Newyddion
Ymateb cymysg UAC i ymgynghoriad TB yng Nghymru
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’i bwriad i ystyried dull o brofi a difa moch daear fel cam bach i’r cyfeiriad cywir, ond bydd nifer o ffermwyr yn poeni am oblygiadau rhannu Cymru’n rhanbarthau TB.
Cafodd yr awgrymiadau eu cyhoeddi fel rhan o ymgynghoriad Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg gan Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths dydd Mawrth, ac yn cynnwys rhannu Cymru’n bum rhanbarth - un ardal TB Isel, dwy ardal TB Canolradd a dwy ardal TB Uchel, gydag agweddau gwahanol at ddileu TB ym mhob ardal.
Yn siarad yn y Senedd yng Nghaerdydd ar ôl cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Bydd y cynnig i rannu Cymru mewn i ranbarthau yn seiliedig ar lefelau TB yn cael ei groesawu gan rai, ond nid gan bawb a byddwn yn ymateb i hyn yn dilyn ymgynghoriad gyda’n haelodau.
“Byddai targedi moch daear heintus yn gam i’w groesawu, ond mae’n siomedig bod cynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio bellach cyn bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd wedi i’r Llywodraeth flaenorol roi’r gorau i’r cynllun cynhwysfawr gwreiddiol i ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”
Mae’r ddogfen ymgynghorol sef ‘Rhaglen o’r newydd ar gyfer Dileu TB’ yn cydnabod rhan bywyd gwyllt wrth ymledu TB, gan ddweud bod 6.85 y cant o foch daear marw ers Medi 2014 wedi profi’n bositif ar gyfer TB.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf DEFRA, mae’r ffigwr ar gyfer gwartheg Cymru oddeutu 0.4 y cant.
“Mae hyn yr un peth a 1 ymhob 15 mochyn daear yn profi’n bositif ar gyfer y clefyd, o’i gymharu gyda 1 ymhob 225 o wartheg, ac yn golygu bod lefel y clefyd ym moch daear oddeutu 15 gwaith yn fwy na mewn gwartheg,” ychwanegodd Mr Roberts.
Ond, dywedodd Mr Roberts bod hi’n bwysig cydnabod bod y clefyd ddim yn bodoli ymhlith bywyd gwyllt ym mhob ardal o Gymru.
“Mewn rhai ardaloedd, does dim haint ymhlith bywyd gwyllt, ond mewn ardaloedd arall mae’r lefel yn uchel. Felly, mae’n rhaid i ni dargedu pob ffynhonnell o haint yn briodol.”
Dywedodd Mr Roberts y bydd UAC yn ymateb yn llawn i’r ddogfen ymgynghorol ar ôl ymgynghori gyda’i changhennau sirol.