Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2016

Munud o dawelwch wedi cael ei gynnal i gofio Aberfan

Mae munud o dawelwch cenedlaethol wedi cael ei gynnal yng Nghymru hanner can mlynedd i'r diwrnod y digwyddodd trychineb Aberfan.

Ar ddydd Gwener, 21 Hydref 1966, llithrodd tomen lo o weithfa rhif 7 i lawr llethrau’r bryniau uwchlaw pentref Aberfan gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy.

Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda’r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pum athro yn y drychineb a dim ond cnewyllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.

Cafodd y munud o dawelwch heddiw ei gynnal am 9.15 y bore, yr union amser pryd ddigwyddodd y trychineb yn 1966.

Bydd diwrnod o ddigwyddiadau i goffau'r trychineb yn cynnwys gwasanaeth ym Mynwent Aberfan am 09:15.

Meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Fyddwn ni fyth yn anghofio’r dynion, y menywod a’r plant ysgol a gollodd eu bywydau mor drasig yn nhrychineb Aberfan 50 mlynedd yn ôl.

“Mae’n bwysig cofio fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall beth ddigwyddodd yn Aberfan.

"Mae’n adeg wirioneddol dorcalonnus yn ein hanes ac ni all unrhyw un sy’n dysgu am y trychineb beidio â chael eu gwir gyffwrdd gan y digwyddiad."

Bydd y Tywysog Charles yn mynychu derbyniad ddydd Gwener gyda theuluoedd rhai o'r rheiny gollodd eu bywydau yn y drychineb. Bydd yn dadorchuddio plac ac yn arwyddo llyfr coffa i gofio am 144 o bobl a gollodd eu bywydau.

Mae gwasanaeth coffa ym Mynwent Aberfan yn cael ei gynnal y bore yma ac fe fydd gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair yn Ynysowen, Merthyr Tudful heno am 7 o'r gloch, dan ofal  y Parchedig Irving Penberthy,  y gweinidog oedd yn gwasanaethu Aberfan ar adeg y drychineb.

Roedd Gaynor Madgwick yno. Roedd hi’n wyth mlwydd oed ac fe’i hanafwyd hi’n ddifrifol. Roedd ei brawd a’i chwaer mewn dosbarthiadau naill ochr iddi. Bu farw'r ddau.

Ysgrifennodd mewn dyddiadur bedair blynedd yn ddiweddarach: “Fe glywais sŵn erchyll, ofnadwy. Sŵn grwgnach. Roedd e mor uchel. Doeddwn i ddim yn gwybod beth yn y byd oedd e.

“Roedd e fel tase’r ysgol i gyd wedi mynd yn dawel. Fferais yn fy unfan dan ofn, wedi fy ngludo i’r gadair. Roedd e fel tase diwedd y byd wedi dod.”

Meddai Gaynor sydd bellach yn 58 oed: “Am 50 mlynedd rydym ni wedi bod yn ceisio ymdopi wedi trychineb Aberfan.

“Mae hi’n lôn hir, ac rydym ni yn ei chymryd hi un dydd ar y tro.

“Fel goroeswr sydd bellach yn 58 mlwydd oed, mae atgofion trychineb Aberfan wedi dod nôl i’m llethu dro ar ôl tro."

Rhannu |