Mwy o Newyddion
Archwilio Pont Britannia 130 troedfedd uwchben y Fenai
Mae mwy na 40 o beirianwyr sifil ac arbenigwyr ar reoli asedau o’r cwmni ymgynghori blaenllaw, Amey, wedi profi bod ganddynt y pen i gyrraedd yr uchelfannau ar ôl cwblhau prosiect cymhleth i archwilio Pont Britannia yng Nghymru ar ran Network Rail.
Gan weithio 130 troedfedd uwchben Afon Menai, defnyddiodd tîm o beirianwyr, arolygwyr mynediad â rhaffau, a staff lle cyfyng a diogelwch Amey eu llu o sgiliau ac arbenigedd i archwilio asedau ar y bont 166 mlwydd oed.
Gan gysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru, mae’r bont hon yn ffordd i filoedd o fodurwyr a channoedd o deithwyr rheilffordd bob diwrnod, ac felly mae’n hanfodol cynnal archwiliadau a chasglu data’n rheolaidd er mwyn cynnal a chadw’r strwythur eiconig hwn.
Eglurodd Robert Woods, Uwch-Reolwr y Prosiect, a arweiniodd yr archwiliad: “Tra bod yr archwiliad ffisegol o’r bont wedi’i gwblhau mewn llai na saith niwrnod, rydym yn awr yn y gwaith o ddadansoddi dros 150 o sgetshis manwl a mwy na 10,000 o luniau er mwyn darparu datrysiadau ac argymhellion yn eu holau i Network Rail.
“Yn ychwanegol at dechnegau archwilio ymarferol, gwnaethom hefyd weithio ag AmeyVTOL, gan ddefnyddio drôn pellter hir i asesu asedau anodd eu cyrraedd – heb orfod peryglu’n peirianwyr. Mae hyn ynddo’i hun wedi gweddnewid y ffordd rydym yn gallu archwilio seilwaith o’r natur hon, ac fe olygai ein bod wedi gallu cadw’r bont yn agored a chael gwared yn llwyr ag unrhyw darfu ar deithio.”
Dywedodd Gary Vickerman o Network Rail: “Pont Britannia, un o’r strwythurau mwyaf eiconig yng Nghymru, ond hefyd un o’r mwyaf cymhleth y mae’n rhaid i Network Rail ei reoli.
"Mae union faint y strwythur, Afon Menai, gweithio ar uchder a lleoedd cyfyng i gyd yn cyfrannu at anhawster yr archwiliad hwn. Mae arloesedd Amey drwy ddefnyddio Cerbydau Awyr Di-griw wedi esgor ar archwiliad mwy effeithlon. Mae’n hyfryd gweld ein bod yn defnyddio technoleg fodern.
"Gwnaeth gweithio agos rhwng Amey a Network Rail hwyluso archwilio gwagleoedd mewnol nas archwiliwyd yn flaenorol oherwydd cyfyngiadau ar fynediad. “
Mae Amey yn darparu dyluniadau a gwasanaethau ymgynghori arbenigol ar ystod o strwythurau eiconig ac o arwyddocâd cenedlaethol i helpu perchnogion a gweithredwyr asedau i wneud gwell penderfyniadau ynglŷn â’u seilwaith.
O astudiaethau dichonoldeb i ddylunio manwl a rheoli asedau amlddisgyblaethol a chymhleth mawrion, yn cynnwys Twnnel Hafren sy’n cysylltu gorllewin Lloegr â De Cymru, a Phontydd Ffordd a Rheilffordd Forth yn yr Alban.