Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2016

Datrys problemau tagfeydd ar ran prysur o’r M4

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith wedi bod yn ymweld â thwneli Brynglas ar yr M4 i weld sut y mae gwaith hanfodol yn datblygu. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, er ei fod yn falch o weld bod y gwaith o wella’r rhan hollbwysig hon o’r ffordd i ddod i ben erbyn dechrau 2018, roedd ei ymweliad wedi cadarnhau na fyddai cynnal a chadw y rhan hon o’r draffordd yn rhoi’r ateb hirdymor i’r broblem drafnidiaeth sydd ei angen ar fyrder ar gyfer y rhan hon o’r M4. 

Meddai:  “Dyma ran hollbwysig o’r ffordd, ac mae o leiaf 75,000 o gerbydau yn teithio arni bob dydd.

"Cafodd y twneli eu trwsio dros dro yn dilyn tân yn 2011 ac maent bellach yn cael eu gwella o ran draenio hanfodol, gwella’r ffordd, y goleuo a gwelliannau mecanyddol a thrydanol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40 miliwn o bunnoedd yn y gwaith hwn o wella’r twneli, ac rwy’n falch iawn bod y gwaith yn mynd rhagddo cystal.

“Mae’r gwaith dros nos wedi ei gynllunio i sicrhau bod modd gwneud y gwaith trwsio mor ddiogel a chyflym â phosib, gyda cyn lleied â phosib o darfu ar ddefnyddwyr y ffordd. 

"Golyga hyn bod contractwyr yn gweithio drwy’r nos, bum diwrnod yr wythnos ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith pwysig o sicrhau bod y twneli hyn yn ddiogel ac yn addas at y pwrpas.

“Er ei bod yn amlwg yn hanfodol i gynnal a gwella’r seilwaith presennol, nid oes amheuaeth na fydd hynny ohono ei hun yn datrys y problemau ehangach o dagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd.

“Rydym wedi ymrwymo’n glir i ddarparu ateb cynaliadwy i’r problemau traffig parhaus ar yr M4 ger Casnewydd a dylai cymunedau a busnesau gael y sicrwydd, yn amodol ar gymeradwyaeth yr ymchwiliad, y dylai’r ateb hirdymor hwn i’r broblem gael ei gyflawni yn 2021.  

 

Rhannu |