Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2016

Cyhoeddi £4.107 biliwn o gyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Mark Drakeford wedi cyhoeddi £4.107 biliwn o gyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18.

Bydd Llywodraeth Leol yn gweld cynnydd yn ei chyllid ar gyfer 2017-18 o £3.8 miliwn o'i gymharu ag 2016-17. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad ar gyfer llywodraeth leol ers 2013-14.

Mae'r setliad yn cynnwys £25 miliwn i gefnogi darparu gwasanaethau cymdeithasol cryf sy'n hanfodol i lwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'r arian ychwanegol hwn yn cydnabod y pwysau cynyddol sy'n wynebu gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth cytundeb Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru i roi £25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol drwy'r setliad i gefnogi darparu gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â darparu £1 miliwn ar gyfer cludiant i’r ysgol a £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio yng nghanol trefi.

Mae cyllid cyfalaf ar gyfer 2017-18 yn dod i £442 miliwn, gyda chyllid Cyfalaf Cyffredinol 2017-18 £143 miliwn – swm sydd heb ei newid. Mae hyn yn golygu y bydd cynghorau yn gallu mynd ati i adeiladu ysgolion newydd, gwella ffyrdd lleol a darparu seilwaith hanfodol.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol hefyd heddiw gymaint o wybodaeth â phosibl am gynlluniau grant eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2017-18. Mae hyn yn nodi swm pellach o £650 miliwn ar gyfer blaenoriaethau allweddol a fydd yn helpu’r awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Elfen hanfodol arall ar y setliad dros dro yw’r cyllid ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Bydd cynnal yr arian yn £244 miliwn drwy gyfrwng y setliad yn sicrhau bod llywodraeth leol yn gallu parhau i ddarparu cymorth hanfodol i bron 300,000 o’n teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Ac yntau’n cyhoeddi'r setliad dros dro, dywedodd Mark Drakeford: "Nod y setliad dros dro hwn yw rhoi sefydlogrwydd i awdurdodau lleol reoli’r penderfyniadau anodd sydd o'n blaenau.

"Rydym yn gwybod bod cynghorau yn darparu eu gwasanaethau yn erbyn cefndir o gyni ac mae'r setliad hwn yn fan cychwyn i gynllunio ar gyfer dewisiadau anos a fydd o’n blaenau.

"Mae’r newidiadau yr ydym yn eu rhoi ar waith eleni yn seiliedig ar gyngor grŵp arbenigol o blith yr awdurdodau lleol ac arbenigwyr annibynnol.

"Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys arian ychwanegol i roi cyllid gwaelodol o 0.5% ar waith sy'n cyfyngu ar yr effaith ar gynghorau a fyddai wedi gweld y gostyngiadau mwyaf yn eu cyllid craidd.

"O ganlyniad, hwn yw’r cynnydd arian parod cyntaf yn setliad llywodraeth leol ers 2013-14. O dan y cyllid gwaelodol, ni fydd rhaid i unrhyw gyngor ymdopi ar lai na 99.5% o'r arian a ddarparwyd iddynt y llynedd.

"O ychwanegu’r swm hwn at y ffynonellau eraill o incwm sydd ar gael iddynt, bydd llawer o gynghorau yn gallu cynyddu eu gwariant y flwyddyn nesaf.

"O fewn y setliad cyffredinol, bydd cynghorau hefyd yn cael £25 miliwn i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol cryf a'r pwysau cynyddol ar y gwasanaeth hwn.

"Mae hwn yn setliad sefydlog mewn cyfnod heriol ac fe fydd yn caniatáu i Lywodraeth Leol bennu cyllidebau cynaliadwy er gwaethaf cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus."

 

Rhannu |