Mwy o Newyddion
Y Llywydd yn ymrwymo i sefydlu Senedd Ieuenctid
Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi ei bwriad i weithio tuag at sefydlu Senedd Ieuenctid.
Gwnaeth yr ymrwymiad tra'n ymateb i gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn heddiw.
Dywedodd y Llywydd: “Mae'r Comisiwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ymgysylltu â phobl ifanc, gan roi cyfleoedd i nifer fawr o bobl ifanc ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau a chyfrannu at y gwaith hwnnw.
“Yn gynharach eleni gwnaethom gytuno, fel rhan o'n strategaeth newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad, ein bod am ddatblygu'r llwyddiant hwn ymhellach.
“Yn sicr, rwyf am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu'n gynnar yn nhymor cyfredol y Cynulliad.
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant ac Ymgyrch Cynulliad Pobl Ifanc Cymru (CYPAW) ar y ffordd orau ymlaen.
“Mae'n rhaid i ni gynnwys pobl ifanc yn y gwaith hwn. Mae'r penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar eu dyfodol ac felly mae'n rhaid i ni wrando ar eu llais fel rhan annatod o'n trafodaethau.
“Byddwn yn trafod ein camau nesaf yng Nghyfarfod y Comisiwn ddechrau mis Tachwedd.”
Mae gan y Cynulliad hanes balch o ymgysylltu â phobl ifanc.
Mae tîm cyfathrebu'r Cynulliad yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu seneddol ac mae perthynas gynhyrchiol hirsefydledig gyda phlant a phobl ifanc Cymru.
Yn ystod y Cynulliad diwethaf, gwnaeth y Comisiwn benderfyniad pendant i ganolbwyntio ar ei ymdrechion i ymgysylltu â phobl ifanc gan gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol ym musnes ffurfiol y Cynulliad, gan roi cyfle iddynt ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau.
Ers hynny, mae'r Cynulliad wedi sefydlu rhaglen waith ieuenctid sydd wedi cynnwys dros 200 o grwpiau ieuenctid ac ystod eang o safbwyntiau yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sy'n aml heb lais (plant sy'n derbyn gofal, plant anabl a gofalwyr ifanc).
Mae dros 20,000 yn ymweld â Siambr Hywel neu'n cyfarfod ag Aelodau a'n swyddogion bob blwyddyn.