Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2016

Eryr Wen yn ailffurfio er budd Cronfa Andrew Pwmps

BYDD y grŵp Eryr Wen yn ail ffurfio nos Sadwrn, 29 Hydref er budd Cronfa Andrew Pwmps.

Hefyd fe fydd Ail Symudiad,  Cadi Gwen a Richard Rees yn rhan o’r noson yn Neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin. 

Drwmiwr gwreiddiol Eryr Wen, grŵp o ardal Gaerfyrddin, oedd Andrew Davies (Andrew Pwmps i’w gydnabod gan fod ei rieni yn rhedeg garej ym mhentref Llanpumsaint).

Bu farw Andrew o gancr yn gynt eleni ac yntau ond yn 52 mlwydd oed.

Roedd erbyn hyn yn ŵr camera llwyddiannus ac yn rhedeg Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin.

Mae Cronfa Andrew Pwmps (http://www.cronfaandrewpwmps.cymru) yn y broses o gael ei chofrestru fel elusen gyda’r Comisiwn Elusennau.

Bwriad y Gronfa yw cynorthwyo eraill sy’n sâl ac yn gweithio i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn arbennig, os ydyn nhw yn llawrydd neu’n hunangyflogedig fel cynifer yn y diwydiant.

Mae manylion llawn ar sut i wneud cais ac ati ar y wefan.

Fe fydd ffrindiau a theulu Andrew yn mynd ati i godi arian fel bod modd cynorthwyo eraill a’r Ymddiriedolwyr yn dosbarthu’r arian yn ôl y ceisiadau a ddaw i law.

Unwaith bydd y Comisiwn Elusennau yn rhoi rhif elusen i’r Gronfa, fe fydd posib i bobl gyfrannu a phosib hawlio’r dreth yn ôl.

Mae tocynnau ar gyfer y noson ar gael yn Siop y Pentan, Caerfyrddin neu drwy ffonio/neges destun – 07850- 56334. Lle i nifer cyfyngedig sydd yna.

Mwy am Andrew Pwmps

  • Sefydlodd Ddisgo Calimero ac roedd yn cynnal disgos ar hyd y gorllewin ac yn arbennig yn ystod gigs Blaendyffryn.
  • Gweithiodd fel dyn camera ar amryw o gyfresi poblogaidd S4C gan gynnwys Cefn Gwlad, Ffermio, Byd ar Bedwar yn ogystal â rhaglenni unigol, cyfresi byr a newyddion i’r BBC. 
  • Ffurfiwyd Eryr Wen nôl yn 1980 a pherfformiodd y grŵp yn gyson trwy gydol yr wythdegau.
  • Cyhoeddwyd nifer o recordiau gan gynnwys un record hir Manamanamwnci.
  • Enillwyd Cân i Gymru yn 1987 gyda’r gân Gloria Tyrd Adre’. ’Dyw hi dal heb ddod.
  • Yn perfformio ar y noson fydd Ioan Hefin (Iogi), Aled Siôn, a’r brodyr Llion ac Euros Jones. Ar y drymiau, bydd Owen Owens (Doctor/Enw’r Da).

Llun: Gareth Pwmps (llun o wefan Cronfa Andrew Pwmps)

Rhannu |