Mwy o Newyddion
A yw Llywodraeth Cymru yn gwario £15biliwn yn y meysydd cywir?
A yw Llywodraeth Cymru yn gwario arian yn y meysydd cywir? Dyna'r cwestiwn y mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ofyn i bobl wrth iddo archwilio cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
Mae'r gyllideb ddrafft yn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwario £15 biliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'n nodi blaenoriaethau a phrosiectau pwysig, a'r nod yw diwallu anghenion pobl Cymru ym maes iechyd, addysg, yr amgylchedd, trafnidiaeth a'r holl feysydd cyfrifoldeb eraill sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Mae'r penderfyniad i adael yr UE wedi bwrw cysgod dros gyllideb y flwyddyn nesaf, oherwydd y disgwylir i Lywodraeth y DU weithredu Erthygl 50 a dechrau'r broses ddwy flynedd o adael yr UE.
Yn ei chyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ddoe nododd Llywodraeth Cymru ei phrif feysydd gwariant ar gyfer 2017-2018:
DEL* Refeniw a Chyfalaf yn ôl adran £
Iechyd, Llesiant a Chwaraeon 7.3 biliwn
Llywodraeth Leol 3.4 biliwn
Cymunedau a Phlant 709 miliwn
Yr Economi a'r Seilwaith 1.3 biliwn
Addysg 1.6 biliwn
Yr Amgylchedd a Materion Gwledig 368 miliwn
Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu 296 miliwn
Cyfanswm 15 biliwn
*Terfyn Gwariant Adrannol (DEL)
“Efallai mai dyma un o'r cyllidebau mwyaf pwysig y mae Llywodraeth Cymru wedi'i llunio erioed,” meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
“Gydag ymadawiad Prydain â'r UE ar y gorwel, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod yn mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig heddiw a dangos hefyd ei bod yn cynllunio ar gyfer dyfodol Cymru y tu allan i'r UE.
“Rydym am glywed safbwyntiau a syniadau pobl Cymru. Rydym am wybod a ydyn nhw'n credu bod yr arian yn cael ei wario yn y meysydd cywir ac yn y ffordd gywir.
“Mae £15 biliwn yn edrych fel swm enfawr o arian, ac mae'n wir ei fod yn swm enfawr o arian, ond gyda'r materion sy'n ein hwynebu o ran iechyd, addysg, yr amgylchedd, trafnidiaeth, yr economi a bywyd ar ôl gadael yr UE, mae'n hynod bwysig sicrhau'r gwerth gorau am bob ceiniog o'r arian hwn.”
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi creu trafodaeth ar-lein lle y gall pobl rannu a thrafod syniadau am y gyllideb ddrafft.
Bydd hefyd yn clywed tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chyrff ac unigolion perthnasol.
Bydd pwyllgorau eraill y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar gyllidebau arfaethedig yn eu meysydd perthnasol ac yn cyflwyno eu canfyddiadau i'r Pwyllgor Cyllid.