Mwy o Newyddion
Diwylliant 24 Awr: Beth rydych chi’n hoffi ei wneud yn ne Cymru?
Mae’r paratoadau terfynnol ar gyfer Diwylliant 24 Awr wedi dechrau.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 12 o’r gloch ddydd Gwener 21 Hydref a bydd ar agor ar draws Dde Ddwyrain Cymru i ddarganfod, yn ystod cyfnod penodol o 24 awr, sut a pham mae pobl yn ymwneud â’r celfyddydau a diwylliant yn eu bywydau pob dydd.
Bydd holiadur byr yn fyw ar www.diwylliant 24awr.cymru ac mae disgwyl iddo ddathlu digwyddiadau, lleoliadau, gweithgareddau wedi’u trefnu a chlybiau gallai’r ymatebwyr fod wedi’u mynychu rhwng 12 o’r gloch 21 Hydref a 12 o’r gloch 22 Hydref ar draws y gymuned i gyd.
Mae’r arolwg hefyd am glywed am ddiddordebau a hobiau mae pobl yn ymgymryd â nhw yn ystod yr amser hwnnw.
Gallent gynnwys darllen llyfr , gwylio ffilm, gwrando ar gerddoriaeth neu ysgrifennu barddoniaeth.
Mae’r blaengarwch yn cael ei gomensiynu gan What Next? Caerdydd a What Next? Y Cymoedd, sef casgliad o sefydliadau ac unigolion celfyddydol allweddol yng Nghymru.
Mae ystod eang o dros 30 o bartneriaid yn cefnogi’r digwyddiad.
Mae’r arolwg yn cwmpasu pob gweithgaredd celfyddydol a diwylliannol mewn deg ardal, o Gaerdydd a Chaerffili i Ferthyr Tudfil a Sir Fynwy.
Hefyd, mae pobl flaenllaw o’r byd celfyddydol a diwylliannol ar draws Gymru yn cefnogi’r digwyddiad.
Dwedodd yr actor Cymraeg Michael Sheen: “Ni allwn wybod pwy rydym ni neu pwy rydym am fod onibai ein bod yn gallu ei ddychmygu'n gyntaf.
"Mae celf a diwylliant yn ymwneud â phosibilrwydd.
"Dyna'r ffordd rydym yn prosesu beth yw hi i fod yn ddynol ac yn fyw.
"Bob tro rwy'n darllen llyfr, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilm neu gyfres deledu rwy'n ehangu yr hyn sy'n bosib i mi fy hun.
"Nid yw'n foeth - mae wrth wraidd ein hanfod.”
Dwedodd Ken Skates,Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith: "Mae’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wraidd Cymru ac yn chwarae rôl bwysig yn dod â phobl a chymunedau ynghyd.
"Mae’r arolwg diwylliant 24 awr ‘Beth Nesa?’ yn gyfle i ddathlu’r ffordd y mae pobl yn mwynhau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol – nid dim ond drwy ein sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth gwych, ond hefyd mewn cartrefi a chymunedau.
"Drwy ein menter Fusion, mae Llywodraeth Cymru’n hybu mynediad i ddiwylliant yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gefnogi pobl i fagu hyder a sgiliau a helpu i wella cyrhaeddiad."
Ymddengys y delynores ryngwladol Catrin Finch a’r gantores/ cyfansoddwraig caneuon a seren deledu Kizzy Crawford mewn ffilm fer ar gyfer y digwyddiad a lansiwyd ar Buzz TV, sy’n dathlu cyfraniad cyfoethog De Ddwyrain Cymru i fyd y celfyddydau a diwylliant.
Ychwanegodd Catrin Finch, sy’n frwd yn hyrwyddo rhoi mynediad i ddiwylliant i bawb: "Mae diwylliant yn rhan o’n hanfod, yn ein galluogi i fynegi ein hunain, ac yn cyfoethogi bywydau a chymunedau , waeth be fo’r iaith."
Hefyd, bydd 24 o wirfoddolwyr yn cael eu 24 awr o ddewisiadau celfyddydau a diwylliant wedi’u proffilio mewn ychydig mwy o fanylder ar oriel ar-lein y prosiect.
Am y newyddion diweddaraf, dilynwch @24hrculture ar Drydar ac ewch i Facebook.com/24HourCulture.
Hefyd i’ch ysbrydoli chi, bydd y wefan swyddogol http://www.diwylliant24awr.cymru yn cynnwys detholiad cyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau fydd yn digwydd ar draws Dde Ddwyrain Cymru.
Diwylliant 24 Awr; Darllen, Gwylio, Dawnsio, Creu, Chwarae, Canu – beth ydych chi’n ei wneud?